5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Datganoli Plismona

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:51 pm ar 9 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 3:51, 9 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Ydw, ond mae'r rhan fwyaf wedi gwella'n sylweddol ers hynny. Yn anffodus, nid yw'r system sy'n gwasanaethu Cymru wedi dod o hyd i ffordd o wasanaethu menywod eto, ac mae angen ichi ystyried hynny wrth wneud eich dadl.

Mae'n bwynt pwysig y mae angen inni ei godi, oherwydd rydym wedi bod ar daith yn y fan hon. Cofiaf eistedd yn swyddfeydd y Llywodraeth yn cael sgyrsiau hir gyda Carl Sargeant ar y materion hyn pan siaradai am brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a rôl yr heddlu yn ymdrin â chanlyniadau hynny. Rwy'n cofio sut y gwnaethom ddatblygu ein syniadau gyda'n gilydd ar lawer o wahanol faterion, gyda'r heddlu'n rhan o'n cymuned, yn rhan o gyfres ac ystod o wasanaethau sy'n darparu ar gyfer pobl yn ein cymunedau, yn hytrach na rhywbeth dieithr neu ar y tu allan i'n cymunedau.

Rwy'n gobeithio ac yn credu bod plismona, pan gaiff ei ddatganoli—. A chredaf y caiff ei ddatganoli ar ryw adeg. Y cwestiwn i'w ofyn i chi'ch hun yw: faint o bobl  sy'n mynd i orfod dioddef cyn i hynny ddigwydd? Pan fyddwn yn datganoli plismona, rwy'n gobeithio y gallwn wneud pethau'n wahanol. Mae'r pwyntiau a wnaeth Rhys ab Owen yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog ddoe yn feirniadaeth arall ar y system cyfiawnder troseddol bresennol. Nid ydym yn trin pobl yn iawn yn y wlad hon ac mae angen inni gydnabod hynny. Pan fyddwn yn datganoli plismona, nid y cyfrifoldeb yn unig a gaiff ei ddatganoli, nid darparu pluen arall yn het gwleidydd arall, Mark, ond ffordd o wneud pethau'n wahanol.

Wyddoch chi beth hoffwn i ei weld? Rwyf am weld plismona'n rhan integredig o'n gwasanaethau eraill, ond rwyf hefyd am ei weld yn cael ei ddwyn i gyfrif yn wahanol. Hoffwn weld mwy o rôl i lywodraeth leol, er enghraifft, yn dwyn heddluoedd lleol i gyfrif. Hoffwn ddeall sut y gall pobl leol gael mwy o lais yn y ffordd y caiff plismona ei wneud yn ein cymunedau lleol. Oherwydd nid yw'r model sydd gennym ar hyn o bryd yn darparu ar gyfer hynny, ac nid wyf yn credu bod unrhyw un yn dadlau o ddifrif ei fod yn gwneud hynny.

Roedd canfyddiadau comisiwn Thomas ynghylch y materion hyn yn gwbl ddinistriol. Roeddent yn ddinistriol—o bosibl y gwaith pwysicaf a welsom wedi'i gwblhau a'i gyhoeddi ers cyflwyno Llywodraeth ddatganoledig dros 20 mlynedd yn ôl. Dylai plismona a'r system cyfiawnder troseddol fod yn ganolog i'r Llywodraeth, ond maent yn gwneud cam â'r wlad y maent i fod i'w gwasanaethu. Ac mae pobl yn gweld hynny wrth gwrs, oherwydd mae Llywodraeth y DU yn datganoli plismona yn Lloegr—mae'n datganoli plismona yn Lloegr. Mae'n cydnabod grym y ddadl dros ddemocratiaeth ac atebolrwydd wrth ddarparu gwasanaethau'r heddlu ym mhobman heblaw Cymru.

Cymru yw'r unig ran o'r deyrnas hon lle nad oes rheolaeth leol dros blismona, lle nad oes atebolrwydd lleol am blismona. A dywedir wrthym, a chawn ein gwahodd i gredu bod hynny'n beth da—ei bod yn dda nad oes gennym lefel o'r fath o atebolrwydd democrataidd, ei bod yn dda nad oes gennym lefel o'r fath o integreiddio lleol, ei bod yn dda nad oes gennym unrhyw lefel o gefnogaeth a rheolaeth leol i'r system cyfiawnder troseddol a'r heddlu. Rwyf am ddod â fy sylwadau i ben. Nid wyf yn credu bod hanes yn cefnogi'r achos hwnnw. Nid wyf yn credu bod y ffeithiau'n cynnal y ddadl honno. Ac nid wyf yn credu y bydd y dyfodol yn derbyn y ddadl honno ychwaith.