6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Wcráin

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:10 pm ar 9 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Samuel Kurtz Samuel Kurtz Conservative 4:10, 9 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Mae pwynt 1 yn y cynnig hwn yn defnyddio peth o'r iaith gryfaf y gallwn ni fel Aelodau o'r Siambr hon ei defnyddio heb gael ein ceryddu gennych chi, Ddirprwy Lywydd—fod y Senedd hon yn ffieiddio at ymosodiad Ffederasiwn Rwsia ar Wcráin. Ond mae'n bwynt, rwy'n siŵr, na fydd neb yn y Siambr hon yn anghytuno ag ef. Yn ddi-os, mae troseddau rhyfel wedi'u cyflawni yn Wcráin. Mae'r gweithredoedd ffiaidd hyn gan Rwsia wedi'u cyfeirio at y Llys Troseddol Rhyngwladol, ac ategaf y cyn Brif Weinidog, Gordon Brown, drwy ddweud y dylid gwneud pob ymdrech i geisio sicrhau cyfiawnder am y troseddau hyn. Rhaid dwyn Putin a'i gynghreiriaid i gyfrif am yr ymosodiadau anwaraidd a diwahân hyn ar sifiliaid diniwed Wcráin. Yn wir, roedd fy nghyd-Aelod, Andrew R.T. Davies, yn llygad ei le pan ddywedodd na ddylai fod unrhyw amheuaeth ym meddwl Putin—dim amheuaeth—na fydd pob gwlad ddemocrataidd yn gadael i'w weithredoedd ymosodol fynd heb eu cosbi. Efallai ein bod yn genedl fach, ond gyda'n gilydd gallwn anfon neges glir, a hynny heb betruso, fod Cymru'n wlad sy'n sefyll gydag Wcráin.

Ddirprwy Lywydd, a gaf fi gofnodi ein hedmygedd o weithredoedd pobl Wcráin yn amddiffyn eu tir, eu gwlad, eu hunaniaeth? Mae pobyddion, athrawon a gwleidyddion wedi troi'n filwyr, gyda rhyddid yn nod sy'n eu huno. Mae gweld cymheiriaid Wcreinaidd o Verkhovna Rada yn ymarfogi i amddiffyn eu pobl a'u gwlad—fel seneddwr yma mae'n gwbl annirnadwy y byddai'n rhaid inni ymarfogi i amddiffyn ein hetholwyr rhag ymosodiad. Pan edrychais yn y drych y bore yma a gofyn i mi fy hun a fyddwn i'n gallu bod mor ddewr â'r Wcreiniaid hynny, ni lwyddais i ddod o hyd i ateb.

Gadewch inni fod yn glir, nid y lluniau o danciau'n croesi ffin Wcráin bythefnos yn ôl oedd dechrau'r rhyfel hwn—dim ond gweithred arall oedd hynny yn y gwrthdaro a ddechreuodd wyth mlynedd yn ôl pan gafodd penrhyn y Crimea ei gydfeddiannu gan Rwsia. Fe wnaeth diffyg unrhyw ymateb addas gan Lywodraethau'r gorllewin rymuso Putin a'i gyfundrefn. O'r adeg honno ymlaen, mae'r tebygolrwydd o ymosodiad llawn ar Wcráin wedi cynyddu o un diwrnod i'r llall.

Er na allwn droi'r cloc yn ôl a chywiro methiannau'r gorffennol, gallwn sicrhau heddiw, ac yn y dyfodol, fod ein partneriaid Wcreinaidd yn cael y gefnogaeth a'r adnoddau sydd eu hangen arnynt i gael gwared ar y grymoedd tramor hyn oddi ar eu tir. Ers 2015 mae Llywodraeth y DU wedi darparu gwerth mwy na £2.2 miliwn o offer milwrol nad yw'n angheuol, cyfraniad a gaiff ei gynyddu ymhellach wrth inni siarad. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi hyfforddi dros 22,000 o filwyr Wcreinaidd drwy Ymgyrch Orbital dros yr un cyfnod.

Mae cyfnewidfa stoc Llundain wedi atal masnachu mewn oddeutu 30 o gwmnïau o Rwsia, gosododd Llywodraeth y DU sancsiynau ar werth £258 biliwn o asedau banc, ac mae asedau llawer o'r rheini sydd agosaf at gylch pŵer Putin wedi cael eu rhewi. Mewn gwrthdaro modern, nid ar faes y gad yn unig y caiff rhyfel ei ennill, ond yn y farchnad fyd-eang a chyfnewidfeydd stoc y byd. I nodi cwymp yr Undeb Sofietaidd codwyd bwâu euraidd McDonald's yn Sgwâr Pushkin ym 1990. Mae symbolaeth eu boicot presennol yn Rwsia yn arwyddocaol iawn. Bydd sancsiynau gan Lywodraeth y DU, ei chynghreiriaid, a chan fusnesau fel McDonald's, Coca-Cola ac Apple yn niweidio economi Rwsia, yn cyfyngu ar gyllid i'w pheiriant rhyfel, ac yn atal nwyddau a thechnolegau allweddol rhag cael eu mewnforio i Rwsia. Rydym wedi eu taro lle mae'n brifo, ac fe wnawn iddynt wingo.

Mae'r cyhoeddiad ddoe y bydd y DU yn dileu'n raddol holl fewnforion olew a chynhyrchion olew Rwsia erbyn diwedd y flwyddyn yn dangos unwaith eto ein bod yn troi ein cefn ar y wlad ysgymun hon sy'n benderfynol o ddinistrio Wcráin.

Mae pwynt olaf y cynnig hwn yn tynnu sylw at yr ymdrechion eithriadol sy'n cael eu gwneud i ddarparu cymorth dyngarol i'r rhai sy'n dianc rhag gwrthdaro. Mae Llywodraeth y DU wedi addo bron i £400 miliwn o gymorth ariannol, a chyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyfraniad sydd i'w groesawu o £4 miliwn ddydd Iau diwethaf. Er bod Llywodraeth y DU wedi rhoi camau ar waith i gyflymu'r broses o awdurdodi ceisiadau fisa, mae llawer o ffordd i fynd. Fan lleiaf, rwy'n disgwyl y bydd Llywodraeth y DU yn gweithio'n ddiflino i brosesu'r miloedd lawer o fisâu gan Wcreiniaid sy'n chwilio am loches yma yn y Deyrnas Unedig. Drwy fynd gam ymhellach yn gyflymach, gallwn sicrhau'r un lefel o gymorth â'r gefnogaeth filwrol ac economaidd y mae ein gwlad wedi arwain arni. Dyna pam y byddwn yn cefnogi'r gwelliant yn enw Lesley Griffiths.

Rwy'n croesawu cyhoeddiad Llywodraeth y DU ddoe am benodiad yr Arglwydd Richard Harrington yn Weinidog Gwladol dros Ffoaduriaid, a theimlaf fod Gweinidog penodol sydd â phrofiad o Lywodraeth yn gam cadarnhaol ymlaen. Fodd bynnag, ni allwn gefnogi gwelliant Plaid Cymru. Ar hyn o bryd, gyda Rwsia'n clecian cleddyfau yn fwy nag erioed o'r blaen, credwn y byddai'n anghyfrifol inni dynnu unrhyw un o'n hataliadau oddi ar y bwrdd a chael gwared ar ein galluoedd i daro'n ôl.

Ddoe, crëwyd hanes wrth i'r Arlywydd Zelenskyy ddod yn arweinydd tramor cyntaf i annerch Tŷ'r Cyffredin. Roedd ei angerdd a'i gariad at ei wlad, a'i awydd ffyrnig i yrru'r grymoedd goresgynnol anghyfreithlon hynny ymaith, yn ddiysgog. Bod ai peidio â bod: dyna'r cwestiwn a ofynnwyd gan yr Arlywydd Zelenskyy am ddyfodol Wcráin. Atebodd yn ddigamsyniol: bod. Ac rydym ni yma yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a'r byd rhydd hefyd yn ateb yn gadarnhaol i hawl Wcráin i fodoli.

Edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau cyd-Aelodau heddiw a hoffwn gloi drwy ddweud, Slava Ukraini. Diolch.