6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Wcráin

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:16 pm ar 9 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 4:16, 9 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Mae pob rhyfel ym mhobman yr un mor ofnadwy i'r bobl sy'n cael eu dal ynddynt, ond mae rhai rhyfeloedd yn cynnwys hadau dinistr mor bellgyrhaeddol fel bod ganddynt allu i'n llyncu ni i gyd. Rwy'n credu ei bod yn fwyfwy amlwg fod y rhyfel yn Wcráin yn rhyfel o'r fath, eiliad mewn hanes nad ydym wedi'i gweld ei thebyg ers 80 mlynedd.

'Tonnau o ddicter a dychryn / yn torri dros diroedd gloyw / a gwelw’r ddaear'.

Gallai'r geiriau hynny gan W.H. Auden, a ysgrifennwyd wrth i danciau Natsïaidd ymosod ar Wlad Pwyl, fod wedi'u hysgrifennu ddoe, nid ar 1 Medi 1939. Fel ei genhedlaeth ef, rydym eisiau golau a fflam gadarnhaol ynghanol y tywyllwch hwn, ond nid yw'n ddigon datgan ein cefnogaeth yn unig. Rhaid inni weithredu.

Felly, beth sy'n rhaid ei wneud? Rhaid inni osod embargo economaidd llwyr ar Rwsia. Mae'n foesol anamddiffynadwy inni ariannu peiriant rhyfel Putin drwy brynu olew, nwy a glo, neu wenith neu gromiwm yn wir. Mae'r DU wedi dweud yn unig y bydd yn rhoi diwedd ar fewnforio olew erbyn diwedd y flwyddyn. Yn gwbl onest, mae hynny'n wleidyddol ac yn foesol anghynaliadwy pan fo plant yn cael eu lladd yn Wcráin y funud hon. Rydym angen embargo ynni llawn ar unwaith. Nawr, fe fydd yn boenus. Rydym yn deall hynny. Ond mae'n bosibl yn dechnegol ac yn economaidd. Mae gan wledydd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd gronfa petrolewm strategol o 90 diwrnod fan lleiaf. Mae'n bosibl felly, a dyna pam y mae'n rhaid inni ei wneud. A bydd yn ei gwneud yn amhosibl i Putin barhau â'i ryfel ymosodol yn Wcráin am fwy na rhai wythnosau. A dylem ei ymestyn i gynnwys nwy hefyd. Hynny yw, mae sôn, fel y mae'r UE yn sôn, am ddwy ran o dair yn llai o fewnforion nwy erbyn diwedd y flwyddyn—unwaith eto, nid yw'n gydnaws â'r rheidrwydd moesol a wynebwn, ac mae'n bosibl cael embargo llwyr ar nwy hefyd. Rydym wedi cael wythnosau o dywydd mwyn, ac mae cyflenwadau mawr o nwy naturiol hylifedig o'r Unol Daleithiau yn golygu bod lefelau storio nwy Ewropeaidd yn uchel bellach, a chyda'r haf o'n blaenau, mae gennym amser i ddod o hyd i gyflenwadau amgen erbyn y gaeaf nesaf.

Drwy ynysu Rwsia yn economaidd yn sydyn a llwyr, y cyfuniad o waharddiad llwyr ar drafodion gan y banc canolog, diarddel Rwsia o system SWIFT ac embargo ynni llwyr, gallwn ddymchwel y gyfundrefn. Os gwnawn hyn, efallai y cyrhaeddwn sefyllfa lle na all Putin fforddio talu ei filwyr ei hun hyd yn oed.

Ni fydd mesurau rhannol yn gweithio. Ym 1935, pan ymosododd Mussolini ar Ethiopia, gosododd y byd sancsiynau wedi'u targedu ond nid aeth mor bell ag embargo ynni. Cynddeiriogodd hynny Mussolini, ond ni wnaeth ei atal. Fe'i hysgogodd i ffurfio cynghrair â'r Almaen, gan greu'r amodau ar gyfer yr ail ryfel byd, sef yr union beth yr oedd y pwerau democrataidd yn awyddus i'w osgoi. Flynyddoedd yn ddiweddarach, dywedodd wrth Hitler y byddai embargo olew wedi'i drechu.

'Mewn cyfnod o wyth diwrnod byddem wedi gorfod cilio o Ethiopia. Byddai wedi bod yn drychineb ddigamsyniol i mi', meddai trawsgrifiad o'r cyfarfod. A chyda llaw, ni all Tsieina achub Rwsia. Nid yw'r purfeydd Tsieineaidd wedi'u haddasu i drin olew sylffwrig o Rwsia, ac mae'r biblinell Transneft yn mynd i'r cyfeiriad arall. Nid oes gan y Tsieineaid danceri ar gyfer hynny. Os na phrynwn ni olew o Rwsia yfory, ni fydd modd ei werthu. A chyda llaw hefyd, mae hwn yn gyfle inni ddatgarboneiddio ein heconomi o'r diwedd. Mae pobl yn sôn am ymateb i newid hinsawdd fel pe bai'n adeg o ryfel. Wel, mae'r rhyfel wedi cyrraedd, a dyma'r amser i inswleiddio ein tai, i ddatblygu ynni adnewyddadwy a gosod pympiau gwres wrth y miloedd. 

Rhaid inni atal Putin drwy ddefnyddio pob dull posibl ar wahân i ymyrraeth filwrol uniongyrchol gan wledydd y gorllewin. Ni all y gorllewin fynd i ryfel uniongyrchol yn erbyn Rwsia dros Wcráin oherwydd y risg o ddwysáu'r bygythiad niwclear. Gyda llaw, ynglŷn â'r gwelliant y bydd fy nghyfaill Heledd Fychan yn cyfeirio ato, mae arfau niwclear yn y byd yr ydym yn byw ynddo yn awr gyda Putin yn ataliad anghymesur. Nid ydynt yn atal Vladimir Putin rhag ei ryfelgarwch, ond maent yn ein hatal ni rhag gwneud unrhyw beth yn ei gylch. Maent yn grymuso unbeniaid ac yn parlysu'r gweddill, a dyna pam y mae'n rhaid inni geisio eu diddymu ar lefel fyd-eang. Ond yr hyn y gallwn ei wneud—