Part of the debate – Senedd Cymru am 4:22 pm ar 9 Mawrth 2022.
Mae'n fraint wirioneddol dilyn y cyfraniad hwnnw gan Adam Price. Credaf fod y cyfraniadau a wnaethoch, gyda Mick Antoniw, ar ôl eich ymweliad ag Wcráin, wedi ein gwneud yn ymwybodol iawn o'r materion personol sydd yn y fantol yma, a sut y mae pob colled yn drasiedi bersonol lwyr. A chredaf ein bod i gyd yn ddiolchgar i chi ac i Mick Antoniw am eich arweiniad ar hynny, a chredaf ei bod yn bwysig ein bod weithiau'n dod at ein gilydd ar y materion hyn. Fore Iau diwethaf, gwyliais fideo yr oedd Andrew R.T. Davies wedi'i roi ar y cyfryngau cymdeithasol, ac roedd naws y fideo yn wahanol iawn i lawer o'r hyn a glywsom ar y pryd, a chredaf fod llawer ohonom yn gwerthfawrogi'r arweiniad gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig hefyd. Mae'n rhywbeth y mae'n rhaid inni ymdrechu i'w wneud, oherwydd mae Adam yn iawn gyda llawer o'r hyn y mae'n ei ddweud, ond nid ydych yn wynebu drygioni ac nid ydych yn wynebu rhyfela ac nid ydych yn wynebu'r lefel hon o fwlio gyda geiriau'n unig; yr hyn y mae'r bwli yn ei ddeall yw gweithredoedd, a dyna lle mae angen inni flaenoriaethu'r hyn a wnawn y prynhawn yma.
Fel rhywun sydd wedi gweithio mewn gwahanol ardaloedd yn y gorffennol ac sydd wedi gweld effaith rhyfel ar bobl, ac sydd wedi gweld effaith ddynol yr argyfwng ffoaduriaid yma yn Ewrop, rwy'n cydnabod bod yn rhaid i bob un ohonom wneud llawer mwy nag a wnawn heddiw i helpu'r bobl sy'n ffoi rhag rhyfel. Ac mae'n iawn ac yn briodol ein bod yn agor ein ffiniau ac yn agor ein gwlad ac yn agor ein breichiau i'r bobl hynny sy'n dianc rhag y drasiedi hon. Nid yw'n ddigon dweud, 'Ewch i Baris neu Frwsel, trefnwch apwyntiad ymhen wythnos neu fis, dangoswch iddynt fod gennych y dogfennau cywir.' Ni fydd y dogfennau gennych pan fyddwch yn ffoi rhag rhyfel. Fe fyddwch yn blaenoriaethu eich plant. Fe fyddwch yn blaenoriaethu'r perthnasau hŷn. Fe fyddwch yn blaenoriaethu eich teulu. Ni fyddwch yn rhoi blaenoriaeth i sicrhau bod gennych lungopi o'ch tystysgrif geni. Ac mae angen inni agor y ffiniau, ac mae angen inni sicrhau bod y bobl hynny'n gwybod bod croeso iddynt yn y wlad hon.
Gwrandewais y bore yma ar dad sy'n aros i fisa gael ei gymeradwyo, a dywedodd ei fod yn falch o'i deulu Wcreinaidd a bod ganddo gywilydd o Lywodraeth Prydain. Ni ddylai neb deimlo felly. Mae gennym gamau gweithredu sy'n bwysig, mae gweithredoedd yn bwysig, ac mae angen inni sicrhau bod ein cartrefi a'n cymunedau ar agor i bobl.