Part of the debate – Senedd Cymru am 4:28 pm ar 9 Mawrth 2022.
'Nid ydym eisiau i'n plant gael eu lladd, ond mae ein plant yn cael eu lladd. Mae ein hysbytai'n cael eu bomio, mae popeth yn cael ei ddinistrio. Mae awyrennau'n hedfan ac yn gollwng bomiau ym mhobman; nid ydym yn gwybod ble fydd y roced nesaf yn glanio.'
Dyma eiriau enbyd mam drallodus wrth i Rwsia ollwng bom ar ôl bom yn ddiwahân ar Wcráin. Mae'n amhosibl peidio â chael eich cyffwrdd gan ei hanobaith, ond nid yw'n amhosibl i'n gweithredoedd ddweud mwy na'n geiriau. Mae'n hanfodol fod gwledydd y gorllewin yn gwneud popeth yn eu gallu i osod y cosbau mwyaf difrifol posibl er mwyn anfon neges glir i Putin fod ei benderfyniad i ymosod yn gamgymeriad hanesyddol. A diolch i Dduw fod gwledydd y gorllewin yn unedig wrth fynd i'r afael ag ymddygiad ymosodol Rwsia drwy weithredu sancsiynau andwyol ar economi Rwsia, ac rwy'n falch o ddweud bod Prydain yn arwain ar hyn. Ond rwy'n cydnabod—fel y mae llawer wedi'i ddweud yma heddiw—fod angen inni wneud mwy, ac mae angen inni weithredu'n gyflym ac mae angen inni gyflawni ar unwaith.
Dyma'r amser ar gyfer gweithredu cadarn, nid brygowthan gwleidyddol, fel y dywedodd Alun. Wedi'r cyfan, drwy gydol hanes beiddgar Prydain, rydym wedi ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn genedl noddfa i'r rhai sy'n ffoi rhag gormes, a rhaid inni barhau i wneud hynny. Yn ogystal, fel tad, a thad-cu i saith o blant ifanc hardd, ac fel rhywun a oedd â rhieni oedrannus, ni allaf help ond dychmygu'r gwaethaf: hynny yw, pe bai fy nheulu wedi'u dal yn y gwrthdaro hwn. Mae mor anodd ei ddirnad. Beth y byddem yn ei wneud?
Mae heddwch a oedd unwaith yn teyrnasu yn Ewrop wedi'i chwalu gan gwmwl tywyll Rwsia, ac mae'r ffaith drist hon yn rhywbeth na fyddai'r un ohonom erioed wedi'i ddisgwyl yn ystod ein hoes. Ond ynghanol y gyflafan a'r dinistr, ceir llygedyn o obaith, ac mae'n rhywbeth y mae cyfundrefn Rwsia wedi'i danamcangyfrif yn ddifrifol, a dycnwch pobl Wcráin yw hwnnw. Rydym i gyd wedi gweld lluniau pwerus ac emosiynol o Wcreiniaid yn amddiffyn eu gwlad yn ffyrnig, fel y soniais yr wythnos diwethaf yn y ddadl. Mae eu hunaniaeth, eu tir, eu diwylliant a'u hanes mor werthfawr iddynt fel bod miloedd ohonynt yn barod i roi eu bywydau dros eu gwlad, cyn gryfed yw eu hunaniaeth a'u balchder. Mae gennym ddyletswydd yn awr, i'r bobl ddewr hynny, i sicrhau bod ein gweithredoedd yn parhau i ddweud mwy na'n geiriau, ac mae angen inni sicrhau bod y gweithredoedd hynny'n digwydd yn awr; fel arall, bydd cyfnodau tywyllaf hanes yn cael eu hailadrodd er mawr berygl i ni. Rwy'n llwyr gefnogi'r cynnig hwn. Slava Ukraini.