Part of the debate – Senedd Cymru am 4:34 pm ar 9 Mawrth 2022.
Rwy'n ddiolchgar am hynny, Joyce. Rydym yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth heno. Rwyf am fod yn gwbl glir: mae'r Ceidwadwyr Cymreig am weld mwy o hyblygrwydd yn y system i sicrhau y gallwn groesawu cynifer o ffoaduriaid â phosibl i'r wlad hon. Mae'n ddyletswydd arnom fel dinasyddion y Deyrnas Unedig i wneud hynny, ac rydym am bwyso ar ein cyd-bleidwyr yn San Steffan, ynghyd â chonsensws trawsbleidiol, i gyflawni hynny.