Part of the debate – Senedd Cymru am 5:08 pm ar 9 Mawrth 2022.
Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n falch iawn, a dweud y lleiaf, mai'r Ceidwadwyr Cymreig sydd wedi cyflwyno'r cynnig heddiw, ac yn arbennig o falch o'r 12 cyfrannwr sydd wedi cyflwyno eu henwau i siarad, ac wedi siarad mor rymus a huawdl yn y ddadl heddiw. Rwyf wedi clywed ar sawl achlysur dros ddau ddiwrnod nad yw geiriau a gweithredoedd o reidrwydd yn cyd-fynd; wel, yn sicr mewn siambr drafod fel hon, mae gan y geiriau sydd wedi'u siarad heddiw bŵer gwirioneddol ac ystyr wirioneddol, ac yn anad dim maent yn cynnwys yr angerdd a'r argyhoeddiad sy'n dangos bod pawb yn ffieiddio at yr hyn sy'n digwydd yn Wcráin.
Mae'n gwbl gywir, fel y nododd Alun Davies yn ei gyfraniad, ac fel y nododd y Gweinidog wrth gloi ei chyfraniad, nad rhyfel pobl Rwsia yw hwn. Rhyfel Putin yw hwn, ac mae'n eu harwain ar hyd llwybr o ddinistr llwyr yn y ffordd y mae'n cyflawni'r rhyfel, a'r sylwadau a glywsom gan Tom Giffard ac eraill yn arbennig a dynnodd sylw at y ffaith—cafodd ei grybwyll gan Jayne Bryant yn ogystal—fod uned famolaeth, gyda phlant a mamau ynddi, wedi cael ei dinistrio y prynhawn yma, 9 Mawrth 2022. Pwy fyddai wedi meddwl y byddai rhywun wedi sefyll yn y Siambr hon a sôn am wlad yn Ewrop lle y cafodd uned famolaeth ei dinistrio mewn rhyfel? Mae hynny'n rhywbeth na feddyliais erioed y byddai'n rhaid i mi ei ddweud yn y Siambr hon, a byddwn yn gweld yr erchyllterau hyn yn parhau oni bai ein bod yn gwrthsefyll Putin ac yn sefyll ar lwyfan unedig i sicrhau ein bod yn cefnogi pobl Wcráin.
Dywedaf wrth Joyce Watson ac eraill sydd wedi tynnu sylw at sylwadau'r unigolyn yng Ngwlad Pwyl, gallaf ddeall rhwystredigaeth yr unigolyn hwnnw a'i sylwadau y bore yma. Ond rwyf am ddweud mai Llywodraeth y DU, drwy fis Ionawr, oedd yn hedfan yr arfau gwrth-danciau a'r arfau gwrth-awyrennau i Wcráin. Llywodraeth y DU oedd yn anfon cynghorwyr milwrol i hyfforddi 20,000 o filwyr Wcráin. Llywodraeth y DU sydd wedi rhoi £400 miliwn ar y bwrdd, y rhodd fwyaf o gymorth dyngarol gan unrhyw wlad yn y byd—yn y byd—nid Ewrop yn unig, nid o Asia, nid o Ogledd America, ond y byd, ac rwy'n hynod falch o ddweud ein bod wedi gwneud hynny. Rwy'n hynod falch o ddweud hynny, ond yr hyn nad wyf yn falch ohono yw'r lluniau a welsom gyda'r ffoaduriaid a'r sefyllfa yn Calais. Gallwn wneud mwy, rhaid inni wneud mwy.