Part of the debate – Senedd Cymru am 5:18 pm ar 9 Mawrth 2022.
Nid yr un broblem yw hi. Mae targedau wedi'u cyrraedd yn llawer haws yn Lloegr nag a welwyd yma. Mae tua 67,000 o bobl—rwy'n mynd i ddweud hynny eto: 67,000 o bobl—yng Nghymru yn aros ar restr aros am dai cymdeithasol, sy'n cyfateb i tua 20,000 o aelwydydd. Gwelodd pedwar o'n hawdurdodau lleol gyfanswm cronnol o 14,240 o bobl ifanc yn y grŵp oedran 20 i 29 yn gadael Cymru rhwng 2012 a 2016, sy'n golygu nid yn unig fod y bobl ifanc hyn wedi colli'r cyfle i fod yn berchen ar gartref yng Nghymru, ond rydym ninnau hefyd wedi colli'r cyfle i gael y bobl ifanc hyn i gyfrannu at ein heconomi ac yn ein cymdeithas.
Fodd bynnag, y gambl fwyaf i mi yw dysgu bod gwariant awdurdodau lleol sy'n gysylltiedig â llety dros dro a digartrefedd yn codi y tu hwnt i reolaeth. Yn fy awdurdod i, rydym wedi gweld y gwariant hwn yn codi o £1.2 miliwn yn 2019-20 i £2.5 miliwn yn 2020-21, a thybir y bydd oddeutu £4 miliwn y tro nesaf. Ar yr un pryd mae'r gwariant yng Nghymru rhwng 2019-20 a 20-21 wedi mwy na dyblu, o ychydig dros £7 miliwn i dros £15.5 miliwn. Mae'r gwariant hwn yn symptom o'r ffaith bod mwy a mwy o unigolion a theuluoedd yn gorfod byw mewn llety gwely a brecwast, ystafelloedd gwesty a llety dros dro.
Nawr, yn ôl ffigurau diweddaraf Llywodraeth Cymru, mae dros 7,000 o bobl wedi cael eu gwthio i ddigartrefedd ac yn byw mewn llety dros dro, a bron i 100 o bobl yn cael eu gorfodi i gysgu ar y stryd. Mae gennym filoedd o adeiladau gwag ledled Cymru—22,140, mewn gwirionedd—a beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud? Dim ond pedwar eiddo yn etholaeth y Gweinidog tai a gafodd eu defnyddio unwaith eto drwy'r benthyciad cartrefi gwag yn 2020-21, dim ond dau yng Nghaerdydd a dim ond un yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae ffigurau eraill a gafwyd yn dangos nad oes gan Lywodraeth Cymru reolaeth ar ein hawdurdodau lleol nac unrhyw gynllun i weld eiddo gwag yn cael ei ddefnyddio unwaith eto.
Bydd y Gweinidog yn gwybod fy mod hefyd wedi codi'r posibilrwydd o ddefnyddio rhywfaint o'r tir a'r adeiladau sy'n eiddo i'r sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae ein hawdurdodau lleol, ein byrddau iechyd a chyrff cyhoeddus eraill yn eistedd ar ddarnau o dir ac adeiladau a safleoedd tir llwyd y gellid eu troi'n gartrefi y gellir byw ynddynt. Codais hyn gyda'r Gweinidog yn y grŵp trawsbleidiol, ac roedd hwn yn grŵp trawsbleidiol a drefnwyd fel y gallem wrthsefyll yr argyfwng tai, ar draws y pleidiau gwleidyddol. Mae arnaf ofn ei bod hi'n ymddangos ein bod wedi cael ein gollwng oddi ar yr agenda honno. Ein cynlluniau fyddai dod â chartrefi gwag yn ôl i mewn i'r stoc dai, adeiladu mwy o gartrefi, gan ddefnyddio tir sy'n eiddo i'r sector cyhoeddus a safleoedd tir llwyd i'w datblygu'n gartrefi. Yn anffodus, ar ôl inni gychwyn ar y daith hon ar sail drawsbleidiol, rydych wedi caniatáu i'ch cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru bennu'r agenda hon. Yr hyn a wnaiff eich bwriad i neilltuo perchnogion ail gartrefi a thargedu perchnogion cartrefi gwyliau fydd cosbi dyhead, uchelgais a chyflawniad yr unigolion hyn, sy'n cyfrannu'n eang at ein heconomi leol mewn gwirionedd.
Nawr, fel y dywedais yn gynharach, mae gennym bron yr un nifer o gartrefi gwag ag sydd gennym o ail gartrefi yng Nghymru. Felly, mae targedu perchnogion ail gartrefi gyda chynnydd cosbol yn y dreth gyngor, cynnydd hyd at 300 y cant o bosibl, yn annheg, yn anghymesur ac yn niweidiol. Hyd yn oed yn eich adroddiad eich hun a gomisiynwyd ar ail gartrefi, dywedodd Dr Brooks:
'Pe bai llai o ail gartrefi, ni fyddai hyn yn newid y ffaith fod prynwyr lleol yn gorfod cystadlu â phrynwyr o’r tu allan'.
A gadewch inni fod yn onest, Aelodau, erys y ffaith bod y canolrif cyflog cyfartalog yng Nghymru gryn dipyn yn is nag yn Lloegr, felly nid oes modd cystadlu.
Nawr, mater arall a godwyd gennyf fi a fy nghyd-Aelodau yw rheoliadau ffosffad, y ffaith bod 10,000 o gartrefi sy'n barod i'w datblygu yn cael eu dal yn ôl gan ganllawiau cynllunio a gyflwynwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer ardaloedd cadwraeth arbennig ger afonydd. Mae fy nghyd-Aelod, James Evans AS, a minnau wedi cyfarfod ag arweinwyr cynghorau, cynllunwyr, ac rwyf fi wedi cyfarfod â darparwyr tai, sy'n credu'n wirioneddol fod rhywfaint o rinwedd yn ysbryd y canllawiau, ond yn y byd go iawn, maent yn arwain at rwystro'r 10,000 eiddo hyn rhag cael eu datblygu. Mae'r sefyllfa wedi llusgo yn ei blaen ers dros flwyddyn ac yn bendant, mae angen mynd i'r afael â hi. Felly, hoffwn ofyn i'r Gweinidog, lle bynnag y mae'r Gweinidog—[Torri ar draws.] O, iawn. [Chwerthin.] O'r gorau.