7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Tai

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:33 pm ar 9 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of James Evans James Evans Conservative 5:33, 9 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Mae tai yn rhywbeth sy'n agos iawn at fy nghalon, fel aelod cabinet blaenorol dros dai a ddarparodd dros 250 o gartrefi ym Mhowys. Mae'n rhywbeth rwy'n awyddus iawn i siarad amdano. Felly, ers yr etholiad yma 10 mis yn ôl, rydym wedi trafod tai yn aml yn y Siambr hon. Ond heddiw, nid wyf yn credu ein bod gam yn nes ymlaen gydag unrhyw atebion ymarferol i'r argyfwng tai presennol. Ond y cenedlaethau iau sy'n dioddef fwyaf. Hwy sy'n ei chael hi'n anodd cael y tai sydd eu hangen arnynt. Ceir diffyg tai fforddiadwy o ansawdd da, ac mae'n parhau i fod yn broblem fawr i'r Senedd hon.

Clywaf y Gweinidog yn dweud eich bod yn adeiladu mwy o gartrefi. Ydych, ond a yw hyn yn cyd-fynd â'r galw mewn gwirionedd? Yr ateb syml yw 'na'. Nid yw'n agos at y galw enfawr am dai a welir yn y wlad hon. Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod 4,314 o anheddau wedi eu hadeiladu y llynedd. Mae hynny 30 y cant yn is na'r flwyddyn cynt, ac nid yw hynny'n ddigon da. Mae pris cyfartalog tŷ yn fy etholaeth wedi codi'n aruthrol i £270,000, ac nid yw ond yn mynd i waethygu gyda'r diffyg cyflenwad a thorfeydd o bobl yn mudo o ddinasoedd i'r Gymru wledig.

Ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed, mae'r ffigurau ar gyfer adeiladau newydd yn sylweddol waeth nag yn ne Cymru. A pham hynny, gofynnwch. Oherwydd bod gennym reoliadau ffosffadau Cyfoeth Naturiol Cymru, a oedd, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Janet Finch-Saunders, yn llawn bwriadau da, ond maent yn arwain at arafu'r gwaith o adeiladu tai. Ceir tagfeydd yn yr adrannau cynllunio, ac mae'r ceisiadau'n aros yn eu hunfan. Mae hynny'n effeithio ar geisiadau masnachol a phreswyl ac yn niweidio'r economi wledig. Mae'r gor-reoleiddio a'r fiwrocratiaeth hon, a gyflwynwyd gan y Llywodraeth, yn dod â datblygiad yn fy ardal i ac ar draws y Gymru wledig ac eraill i stop yn llwyr, ac mae'n cloi llawer o bobl ifanc allan o'r farchnad dai am genhedlaeth.

Nid yw'r cyflenwad tai yn ateb y galw. Nid mater i'r sector preifat yn unig yw hwn. Mae'r sector tai cymdeithasol yn dioddef hefyd. Mae miliynau o bunnoedd o grantiau Llywodraeth Cymru wedi'u dal mewn limbo oherwydd yr anallu i fwrw iddi i adeiladu. Nid yw cynlluniau datblygu lleol yr awdurdod lleol bellach yn werth y papur y maent wedi'u hysgrifennu arno. Maent mewn anhrefn, a bydd targedau tai'n cael eu methu dro ar ôl tro.

Mae gennym sefyllfa ym Mhowys lle mae'r cyngor yn gorfod defnyddio llety gwely a brecwast a llety dros dro, nid yn unig yn y tymor byr, ond fel atebion hirdymor i fynd i'r afael â digartrefedd. Mae hyn yn erbyn polisïau Llywodraeth Cymru, ond rhaid iddynt wneud hynny am nad oes digon o eiddo'n cael ei adeiladu neu ar gael i gartrefu'r bobl ddigartref a'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.

Rydym yn gweld pobl ifanc yn cael eu gorfodi allan o'n hardal, allan o'r cymunedau y maent yn eu galw'n gartref, am na allant fforddio rhentu ac ni allant fforddio prynu. Os daw tai ar y farchnad, mae'r prisiau'n cyrraedd yr entrychion gan arwain at ryfel cynigion, gyda thai'n mynd am filoedd a miloedd o bunnoedd dros y pris gofyn. Er fy mod yn croesawu'r ffaith bod pobl yn symud i Gymru o ddinasoedd fel Llundain i geisio cael bywyd gwell yng Nghymru, ni all fod ar draul pobl leol na'r cenedlaethau iau nad oes ganddynt unrhyw ffordd o gystadlu â'r bobl hyn oherwydd y cyflogau is a welwn yma yng Nghymru.

Weinidog, rwy'n gwybod ei bod yn debygol nad yw canolbarth Cymru ar frig eich rhestr flaenoriaethau, ond rhaid ichi weld bod angen edrych o'r newydd ar sut i fynd i'r afael â'n hargyfwng tai. I ddechrau, mae angen edrych ar y rheoliadau ffosffad, dod o hyd i ateb a chaniatáu i ddatblygu ddigwydd. Byddwn yn croesawu diddymu'r dreth trafodiadau tir, er mwyn sicrhau ein bod yr un fath â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig i roi cyfle i bobl ifanc gynilo blaendal. Hoffwn weld cynnydd hefyd yn y trothwy rhentu i brynu, fel bod mwy o eiddo'n gymwys a mwy o denantiaid yn gallu rhentu cartref gyda'r nod terfynol o brynu'r eiddo hwnnw os ydynt am wneud hynny.

Mae angen inni edrych ar ein stoc dai bresennol yng Nghymru. Sut y mae uwchraddio'r eiddo hwn? Sut y mae cydymffurfio â safon tai Cymru? Sut y gallwn gymell perchnogion cartrefi a landlordiaid i wneud gwaith gwella er mwyn gwneud y cartrefi hyn yn addas ar gyfer y dyfodol pan nad oes arian ar gael? Hoffwn weld mwy o anheddau gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto, fel y byddai Mike Hedges, Janet a phobl eraill yn ei ddweud, rwy'n siŵr, a rhaid i'r Llywodraeth hon lansio cynlluniau radical i sicrhau bod yr eiddo hwnnw yn cael ei ddefnyddio unwaith eto ac nid siarad amdano'n unig.

Mae pawb ar draws y Siambr hon, gan fy nghynnwys i, o blaid croesawu ffoaduriaid o Wcráin, a chefnogi eu brwydr yn erbyn unben ymerodraethol yn Rwsia, ond pan ddaw'r bobl hyn yma, ar ôl ffoi rhag erledigaeth, rhaid iddynt allu mynd i gartrefi o ansawdd da. Mae gobaith—