Part of the debate – Senedd Cymru am 6:10 pm ar 9 Mawrth 2022.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau, o bob rhan o'r Siambr heddiw, am gyfrannu at ein dadl hynod bwysig ar dai yng Nghymru—gyda llawer o wahanol safbwyntiau ac atebion posibl ar gyfer ymdrin â'r materion sy'n ein hwynebu. Hoffwn ddiolch hefyd i'r Dirprwy Weinidog am ei ymateb hefyd. Mae'n amlwg o'r cyfraniadau trawsbleidiol heddiw fod Aelodau yn y Siambr hon yn pryderu o ddifrif am nifer o faterion yn ymwneud â'r argyfwng tai sy'n ein hwynebu. A sylwaf, ym mhwynt 1 o welliant Llywodraeth Cymru i'n dadl heddiw, eu bod hwythau hefyd yn cydnabod yr heriau allweddol y mae'r sector tai yn eu hwynebu sy'n cael effaith andwyol ar y cyflenwad tai ledled Cymru.
Wrth gloi'r ddadl hon heddiw, hoffwn ganolbwyntio yn gyntaf ar un o'r materion allweddol a drafodwyd yma, sef adeiladu digon o gartrefi yng Nghymru, a chanolbwyntio ar dri maes y credaf iddynt ddod i'r amlwg yn y ddadl heddiw wrth geisio mynd i'r afael â'n hargyfwng tai presennol. Ar y pwynt cyntaf, fel yr amlinellwyd yn huawdl iawn gan fy nghyd-Aelod, Janet Finch-Saunders, wrth agor y ddadl heddiw, mae dros 22 mlynedd o Lywodraethau Llafur Cymru olynol wedi methu ar bob un o'r metrigau i adeiladu digon o dai i ateb y galw cynyddol yma yng Nghymru. Fel y dywed pwynt 1 yn ein cynnig, ac a amlinellwyd gan adolygiad Holmans, y tynnodd Tom Giffard sylw ato, ar hyn o bryd mae Cymru angen hyd at 12,000 o anheddau newydd y flwyddyn erbyn 2031, er mwyn sicrhau na fydd pobl yn byw mewn amodau anfoddhaol. Ac wrth edrych yn nes adref, yn fy rhanbarth i yng ngogledd Cymru, oherwydd clywais James Evans yn siarad am Frycheiniog a Sir Faesyfed—fel y mae bob amser yn hoffi ei wneud, wrth gwrs—un mater a godais ar ran fy rhanbarth yng ngogledd Cymru gyda'r Gweinidog newid hinsawdd a'r Prif Weinidog droeon yw y dylid adeiladu tua 1,600 o gartrefi yn fy rhanbarth bob blwyddyn am yr 20 mlynedd nesaf. Ac ar hyn o bryd rydym yn gweld tua 1,200 o gartrefi'n cael eu hadeiladu yn fy rhanbarth. Mae cwestiynau clir yn codi ynghylch y cyflenwad tai newydd ledled Cymru.
I ddilyn hyn, un o'r pethau a godwyd gan yr Aelodau ar sawl achlysur yn y ddadl hon oedd mater datblygu preifat a datblygwyr preifat. Mae gan ddatblygwyr preifat rôl enfawr i'w chwarae yn sicrhau bod gennym nifer cywir o dai yma yng Nghymru. Ac maent hefyd angen yr amgylchedd iawn ar gyfer buddsoddi a sicrhau bod y tai hynny'n cael eu hadeiladu. Yn amlwg, un o elfennau allweddol yr amgylchedd hwnnw yw cael yr economi iawn i swyddi fod ar gael i bobl, i'r tai gael eu hadeiladu yn yr ardaloedd hynny. Credaf mai James Evans a dynnodd sylw at rywfaint o'r cynhyrchiant economaidd a sut y mae'n amrywio'n sylweddol ledled y wlad. Felly, mae'n amlwg i mi ac i fy nghyd-Aelodau ar fy ochr i o'r meinciau yma, pe baem yn sefydlu'r amgylchedd iawn ar gyfer ein heconomi ac yn denu datblygiad preifat a buddsoddiad preifat i allu adeiladu tai, gallem weld cynnydd sylweddol yn nifer y tai sy'n cael eu hadeiladu yma yng Nghymru.
Yr ail fater y cyfeiriodd nifer o'r Aelodau ato oedd yr argymhelliad yn ein cynnig i adfer yr hawl i brynu yng Nghymru. Nawr, mae'n amlwg fod barn wahanol ar hynny gan gyd-Aelodau ar yr ochr arall i'r Siambr, yn enwedig Mike Hedges, a Carolyn hefyd. Ond un o'r pwyntiau yr hoffwn ei wneud, oherwydd mynegwyd pryderon ar yr ochr honno hefyd ynghylch sicrwydd cael eich cartref eich hun—y sicrwydd o wybod bod gennych gartref i fynd iddo bob nos—un o'r pethau mwyaf sicr y gallwch ei gael yw eich tŷ eich hun, eich eiddo eich hun. Felly, beth am ganiatáu i bobl gael eu cartref eu hunain, hawl i brynu eu heiddo eu hunain y maent yn byw ynddo? Mae'n debyg mai dyna'r ffordd fwyaf syml o greu sicrwydd tai i bobl yng Nghymru.
Y trydydd maes y cyfeiriodd yr Aelodau ato oedd y berthynas ag awdurdodau cynllunio ac awdurdodau lleol hefyd. Clywais Hefin David yn sôn, yn ei ardal ef yng Nghaerffili, am y dyraniad tir mewn cymunedau—beth sydd angen ei roi ar waith i ganiatáu i bobl gael tai fforddiadwy hefyd. A rhaid inni wneud mwy i sicrhau bod eiddo gwag yn cael ei ddefnyddio unwaith eto a gwnaeth nifer o'r Aelodau y pwynt hwnnw.
Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, mae ein cynnig heddiw yn darparu atebion go iawn i ddatrys yr argyfwng tai sy'n ein hwynebu, ac mae pawb ohonom am wneud hynny ac rydym i gyd yn ceisio gwneud gwahaniaeth, yng ngeiriau Mabon ap Gwynfor. Fel y gŵyr Aelodau'r gwrthbleidiau, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i alw am atebion o bob rhan o'r Siambr ac mae'n drueni ein bod wedi cyflwyno atebion heddiw a bod y rhain yn cael eu hanwybyddu'n llwyr a bod 'dileu popeth' yno unwaith eto.
Diolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau i'r hyn a fu'n ddadl ddefnyddiol iawn y prynhawn yma, fel rwy'n dweud. Rydym i gyd wedi dod at ein gilydd i gynnig atebion ymarferol i'r argyfwng tai sy'n ein hwynebu yng Nghymru. Ac fel bob amser, rwy'n annog pob Aelod o bob rhan o'r Siambr hon i gefnogi ein cynnig gwych gan y Ceidwadwyr. Diolch yn fawr iawn.