Part of the debate – Senedd Cymru am 6:25 pm ar 9 Mawrth 2022.
Symudwn at y bleidlais olaf ar gynnig y Ceidwadwyr Cymreig ar dai. Galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Ac os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant i'r cynnig. Agorwch y bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Felly, gwrthodir y cynnig.