Part of the debate – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 15 Mawrth 2022.
Cwestiynau i'r Prif Weinidog yw'r eitem gyntaf. Cyn inni ofyn i Alun Davies ofyn y cwestiwn, a gaf fi groesawu pobl ifanc ysgol rywle neu'i gilydd i'r oriel gyhoeddus? Dwi'n meddwl taw dyma'r ysgol gyntaf i ymweld â ni ers y cyfnod clo, felly rŷn ni'n arbennig o ddiolchgar ac yn eich croesawu chi'n fawr atom ni heddiw.