Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 15 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:48, 15 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Yn bendant, Llywydd. Wrth gwrs. Rwy'n credu bod y bwrdd iechyd eisoes wedi bod mewn cysylltiad â'r teuluoedd ac mae ymddiheuriad yn ddyledus iddyn nhw. Mae'r crwner wedi gofyn i'r adroddiadau gael eu tynnu yn ôl wrth i'w ymchwiliadau i'r marwolaethau barhau, ac rwy'n credu bod y bwrdd iechyd wedi eu tynnu nhw oddi ar eu gwefan. Maen nhw'n achosion gwahanol iawn ac maen nhw'n haeddu'r mathau o ymchwiliad y gall y crwner eu cyflawni iddyn nhw.