Yr Argyfwng Costau Byw

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 15 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:25, 15 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Rwy'n sylwi, Llywydd, pryd bynnag yr aiff unrhyw beth o'i le ar feinciau'r Ceidwadwyr, caiff hyn ei drin fel pe bai rywsut yn waith Duw nad oes ganddyn nhw gyfrifoldeb drosto o gwbl. Y ffaith eu bod nhw wedi bod mewn grym ers dros ddegawd, degawd o gyni, Llywydd, pryd bob tro—[Torri ar draws.] Fe'u clywaf yn gweiddi—