Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 15 Mawrth 2022.
Bydd yr argyfwng costau byw yn effeithio ar deuluoedd a chymunedau ledled Cymru, gan gynnwys y rheini yn etholaeth yr Aelod ei hun. Mae dadansoddiad diweddar gan sefydliadau fel Sefydliad Joseph Rowntree, Sefydliad Bevan a'r Resolution Foundation wedi dod i'r casgliad y bydd y flwyddyn i ddod yn arbennig o heriol i'r aelwydydd hynny ar incwm isel.