2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 15 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 2:32, 15 Mawrth 2022

Drefnydd, wythnos diwethaf, cyhoeddodd bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg y byddant wythnos yma yn cau dwy ganolfan frechu—un yn y Rhondda ac un yng Nghwm Cynon. Bydd disgwyl i bawb bregus fydd yn cael booster yn y gwanwyn deithio i Ben-y-bont, Llantrisant neu Ferthyr Tudfil. Mae hyn yn golygu, os nad oes gennych gar neu ffordd o gael lifft, fod rhaid gwneud taith o ddwy awr, gan ddal tri bws, i gyrraedd y ganolfan agosaf. 

O ystyried bod nifer y marwolaethau COVID yn Rhondda Cynon Taf wedi bod ymhlith yr uchaf ym Mhrydain, oes modd cael datganiad, os gwelwch yn dda, gan y Gweinidog iechyd o ran pa gefnogaeth fydd yn cael ei darparu i sicrhau bod pobl fregus sydd heb fynediad i gar yn medru derbyn eu brechlynnau yn lleol heb orfod gwneud teithiau hirfaith?