Part of the debate – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 15 Mawrth 2022.
Ond mae'n bwysig deall—. Wel, mae yn fy natganiad i o fuddiannau. Felly, mae'n bwysig deall beth yw'r trothwyon atebolrwydd a'r trothwyon craffu gwirioneddol. Ac yn bwysig, rwy'n credu, mae angen i'r Senedd ystyried sut y gall craffu ar y gwariant y mae'r prifddinas-ranbarth yn ei wneud, ac, yn bwysig, y nodau y mae'n eu gosod ei hun. Ond rwyf i eisiau ceisio deall beth yw rhan Llywodraeth Cymru o ran sicrhau, yn amlwg, y bydd y nodau yn cael eu cyrraedd, a bod y 5,000 o swyddi sydd wedi'u nodi, a'r cynnydd mewn gwerth ychwanegol gros yn cael eu cyflawni.