Part of the debate – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 15 Mawrth 2022.
Gaf i ddechrau drwy ddatgan diddordeb fel cynghorydd sir, am yr ychydig wythnosau nesaf, achos ei fod e'n berthnasol i'r cwestiwn dwi'n mynd i'w ofyn?
Drefnydd, dwi'n siŵr eich bod chi, fel fi, wedi croesawu'r datganiad yr wythnos diwethaf gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru a chynllun pensiwn llywodraeth leol Cymru, yng ngoleuni'r digwyddiadau ofnadwy yn Wcráin, fod y cronfeydd pensiwn wedi penderfynu dad-fuddsoddi o gwmnïau o Rwsia cyn gynted ag sydd yn ymarferol bosibl. Roedd hon yn enghraifft wych o weithredu clir a diamwys gan y bartneriaeth bensiynau, a'r hyn sydd yn bosibl wrth i bobl gymryd safiad ar bwynt o egwyddor.
Yn anffodus, ar fater newid hinsawdd a dargyfeirio oddi wrth danwydd ffosil, nid yw penderfyniadau gan gronfeydd pensiwn wedi bod mor bendant a sydyn. Fe wnes i gyfarfod yn ddiweddar ag ymgyrchwyr yn fy rhanbarth i i drafod y mater hwn, ac mae rhwystredigaeth glir o ran y diffyg cynnydd sydd wedi bod. Dŷn ni'n gwybod bod gan gronfeydd pensiwn Cymru dros £500 miliwn wedi ei fuddsoddi mewn cwmnïau tanwydd ffosil o hyd. Ac ar ôl datgan argyfwng hinsawdd a natur yn y lle hwn, rwy'n credu'n gryf fod angen i'r Senedd chwarae rôl flaengar gyda'r agenda hon.
Rwy'n ddiolchgar i Jack Sargeant am gyflwyno datganiad barn yn ddiweddar ar y mater, sy'n galw ar y Llywodraeth i weithredu. Tybed, felly, Drefnydd, a fyddech chi nawr yn barod i gyflwyno datganiad neu ddadl yn amser y Llywodraeth a fyddai'n nodi safbwynt a chamau gweithredu'r Llywodraeth ar y mater hwn, gan roi cyfle i ni amlinellu cyfleoedd a chamau i gefnogi cronfeydd pensiwn i gyflawni targedau dad-fuddsoddi clir dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Byddwn i'n ddiolchgar, felly, ichi, Drefnydd, pe baech yn ystyried fy nghais i neilltuo amser y Llywodraeth i drafod y mater hynod bwysig hwn.