Part of the debate – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 15 Mawrth 2022.
Diolch i chi. Gwnawn, ac rydym ni'n ymwybodol o'r adroddiad. Rydym ni wedi gweld yr adroddiad ac mae ein tîm technegol ni wedi bod yn ei ddadansoddi. Mater i'r awdurdod lleol, sef y corff cyfrifol yn hyn o beth, yw hwnnw, ac rwy'n deall bod Gwynedd yn ystyried yr adroddiad hefyd, neu wedi cael golwg arno, ac rwy'n credu bod angen iddyn nhw drafod hynny gyda'r awduron i ddechrau i sicrhau bod dealltwriaeth gyffredin ar sail y dystiolaeth. Ac wedyn, pe byddai goblygiadau i hynny, fe fyddem yn eu hystyried nhw, yn amlwg.