Part of the debate – Senedd Cymru am 3:56 pm ar 15 Mawrth 2022.
Diolch. Mae'r gyllideb atodol hon yn cyflwyno cynlluniau gwariant terfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol. Mae'n dangos cynnydd o dros £1.1 biliwn i adnoddau cyffredinol Cymru, cynnydd pellach o 4.4 y cant ar y sefyllfa a nodwyd yn y gyllideb atodol gyntaf a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2021. Yn y gyllideb hon, mae ein cynlluniau gwariant cyllidol wedi gweld cynnydd o gyfanswm o £2.409 biliwn. Mae dros 150 o ddyraniadau unigol gwerth bron i £2 biliwn wedi eu cymeradwyo o'r gronfa wrth gefn i gefnogi cyllidebau adrannol a sicrhau'r gwariant mwyaf posibl. Mewn ymateb i'r argyfwng costau byw, ac i gefnogi'r rhai mwyaf anghenus, rydym ni wedi gweithredu'n gyflym ac wedi defnyddio'r gyllideb atodol hon i ddyrannu £152 miliwn i helpu pobl â chymorth hanfodol yn wyneb yr argyfwng costau byw a £25 miliwn arall fel cronfa ddewisol i awdurdodau lleol ddefnyddio eu gwybodaeth leol i helpu aelwydydd a allai fod yn ei chael hi'n anodd.
Yn ogystal, rydym ni wedi gwneud dyraniadau sylweddol i ariannu ystod o fesurau sydd nid yn unig yn cefnogi adferiad Cymru yn dilyn y pandemig, ond hefyd yn cefnogi'r gwaith o gyflawni ymrwymiadau'r rhaglen lywodraethu. Mae'r rhain yn cynnwys: £70 miliwn i gefnogi costau rhaglenni cyfalaf awdurdodau lleol; dros £65 miliwn ar gyfer bargeinion dinesig a thwf; £50 miliwn wedi ei ddarparu i helpu ysgolion i wneud gwaith atgyweirio a gwella cyfalaf; a dros £19 miliwn i helpu i dalu costau ymdrin ag adfer yn dilyn effeithiau'r llifogydd ym mis Chwefror 2020.
Wrth gwrs, rydym ni wedi dyrannu cymorth i barhau â'n hymateb i'r pandemig ac i liniaru ei effaith—mae £1.4 biliwn wedi ei ddyrannu yn y gyllideb hon. Ers dechrau'r pandemig, rydym ni wedi dyrannu dros £8.4 biliwn. Rydym ni wedi darparu £551 miliwn ychwanegol ar gyfer pecyn o fesurau i helpu'r GIG nid yn unig gyda chostau ymdrin â'r pandemig a chynyddu capasiti yn ein hysbytai, ond hefyd i helpu i symud ymlaen. Rydym ni wedi dyrannu dros £135 miliwn i'r gronfa galedi llywodraeth leol, fel cymorth ar gyfer costau ychwanegol a cholli incwm sydd wedi ei achosi gan effaith y cyfyngiadau ychwanegol a roddwyd ar waith o ganlyniad i'r amrywiolyn omicron. Ar gyfer economi Cymru, rydym ni wedi dyrannu £125 miliwn ar gyfer pecyn cymorth brys, a £14.75 miliwn i gefnogi'r gwaith o redeg cylch arall o'r gronfa adfer diwylliannol. Rydym ni wedi dyrannu £8 miliwn o refeniw a £4 miliwn o gyfalaf i gefnogi cyfres o gamau gweithredu fel bod y rhan fwyaf o fusnesau a rhwydweithiau'r gadwyn gyflenwi yn y sector bwyd a diod yn ddigon cadarn i oroesi.
Rydym yn cydnabod y tryblith y mae'r pandemig wedi parhau i'w gael ar ddysgwyr, ac rydym yn cefnogi'r sector addysg drwy ddyrannu dros £45 miliwn i helpu i reoli ei effeithiau, a £33 miliwn ar gyfer parhau â'r rhaglen recriwtio, adfer a chodi safonau, i gefnogi adferiad dysgwyr a buddsoddi mewn adnoddau i gefnogi'r gwaith o gyflwyno'r cwricwlwm newydd.
Mae cyfyngiadau a roddwyd ar waith i liniaru effeithiau'r pandemig yn parhau i gael effaith ar y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus a refeniw teithwyr. Ac rydym yn dyrannu dros £53 miliwn i gefnogi gwasanaethau rheilffyrdd a £22 miliwn ar gyfer y diwydiant bysiau.
Unwaith eto, mae diffyg eglurder Llywodraeth y DU ar benderfyniadau ariannu, y tro hwn ynghylch y gefnogaeth ar gyfer yr argyfwng costau byw, yn arwain at oblygiadau enfawr i Gymru, ac rydym ni wedi gorfod newid ein rhagdybiaethau ar gyfer y flwyddyn yn sylweddol. Mae'r diffyg hyblygrwydd parhaus i reoli gwariant dros nifer o flynyddoedd ariannol yn golygu ein bod unwaith eto o dan anfantais wrth gynllunio a rheoli ein cyllideb o ganlyniad i hynny.
Hoffwn gloi drwy ddiolch i'r pwyllgor am ystyried y gyllideb hon a chyhoeddi ei adroddiad, a byddaf yn rhoi ymateb manwl maes o law, ond rwyf yn bwriadu derbyn pob un o'i 11 o argymhellion. Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r cynnig.