Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 15 Mawrth 2022.
Rwy'n ddiolchgar am y gefnogaeth yr ydym ni wedi ei chael y prynhawn yma o ran hyblygrwydd. Ailadroddodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid gefnogaeth y Pwyllgor Cyllid i'n cais i gael blwyddyn galendr lawn i ymdrin â dyraniadau hwyr, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni wedi ei gael yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond am ryw reswm mae Llywodraeth y DU wedi atal hynny rhag digwydd, ac, unwaith eto, mae i hynny oblygiadau difrifol, yn fy marn, i'n gallu ni i gynllunio a gwario cystal ag y gallwn. Mae’r Pwyllgor Cyllid yn dweud y dylem ni gael yr hyblygrwydd hwnnw fel mater o drefn, ac rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Mae gennym ni gyfarfod rhwng y pedwar Gweinidog cyllid, neu drefniant newydd y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid yr wythnos nesaf, ac mae Cymru'n cyflwyno papur yn y cyfarfod hwnnw sy'n ymwneud yn benodol â'r hyblygrwydd ariannol sydd ei angen arnom er mwyn rheoli ein cyllideb yn briodol. Felly, byddaf i’n glir iawn i adlewyrchu'r sgyrsiau yr ydym ni wedi eu cael y prynhawn yma a'r cyfraniadau o ran hyblygrwydd, fel bod Prif Ysgrifennydd y Trysorlys yn ymwybodol bod hyn yn rhywbeth y mae'r Pwyllgor Cyllid yn y Senedd yn ei gefnogi'n fawr hefyd.
O ran rhai o'r meysydd penodol a godwyd yn y ddadl, cafwyd nifer o sylwadau ynglŷn ag iechyd, ac mae hwn yn faes lle rwyf i’n cytuno unwaith eto, rwy’n credu, â'r holl heriau a gyflwynwyd gan gyd-Aelodau yn ystod y ddadl, yn yr ystyr y gallwn ni wneud dyraniadau, ond mewn gwirionedd yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yw beth mae'n ei gyflawni i bobl yng Nghymru. Felly, fe welwch chi’r arian ychwanegol mewn cysylltiad ag iechyd—felly, mae hynny'n £411 miliwn o refeniw i gefnogi cynlluniau cenedlaethol a lleol mewn cysylltiad â'r pandemig. Mae'r cyllid yno hefyd ar gyfer sefydlogi'r GIG yn dilyn y pandemig, olrhain COVID parhaus, costau brechu, cyfarpar diogelu personol a gwaith arall i ymateb i COVID. Felly, mae hynny'n fuddsoddiad pwysig iawn yn y GIG. Ac yna, mae £100 miliwn hefyd wedi ei ddyrannu ar gyfer mesurau adfer, ac mae hynny, wrth gwrs, yn ychwanegol at y £100 miliwn a gyhoeddwyd yn y gyllideb atodol gyntaf, a bydd hynny, unwaith eto, yn cefnogi gwaith y GIG.
O ran y dyraniad cyfalaf, y nod yno yw gwella llif cleifion, gwella systemau awyru a mynd i'r afael â rhai o'r rhestrau aros drwy'r theatr orthopedig ychwanegol, a fydd yng Nghastell-nedd Port Talbot, a chanolfan ddydd offthalmoleg newydd yn Singleton. Felly, byddwn yn gwneud y buddsoddiadau penodol hynny i wella'r sefyllfa o fewn y GIG ac ymdrin â rhai o'r ôl-groniadau hynny. Rydym ni wedi cael amcangyfrifon am nifer y bobl a fyddai wedi bod ar y rhestr aros pe na byddem ni wedi cael y buddsoddiad ychwanegol hwnnw. Gohiriwyd pethau rywfaint oherwydd yr amrywiolyn omicron—fe wnaeth hynny dynnu pethau yn ôl rhywfaint o ran y cynnydd yr oeddem ni’n ei wneud—ond roeddwn i’n gallu rhannu â'r Pwyllgor Cyllid, wrth graffu, rai enghreifftiau o'r ffyrdd yr ydym yn gwybod bod y buddsoddiad yr ydym yn ei wneud yn gweithio.
Roedd llawer o ddiddordeb eto yn ein buddsoddiad mewn gofal cymdeithasol. Mae gennym ni becyn gwerth £42.7 miliwn ar gyfer ariannu gofal cymdeithasol, sy'n helpu i fynd i'r afael â rhywfaint o bwysau'r system, a'r meysydd penodol lle bydd hynny’n cael ei fuddsoddi yw'r meysydd y nododd ein pwyllgor gweithredu gofal lle gallwn ni wneud y gwahaniaeth mwyaf. Mae hynny'n cynnwys £20 miliwn i ariannu gwasanaethau cymorth i blant; mae cyllid ychwanegol o £3.8 miliwn i gefnogi camau ymyrryd ac atal cynnar, ac mae hynny wedi ei ddyrannu i sefydliadau'r trydydd sector; ac £1 miliwn i gefnogi ceiswyr lloches ar eu pen eu hunain, ynghyd ag amrywiaeth o fuddsoddiadau eraill hefyd.
Roedd rhywfaint o ddiddordeb eto yn y gefnogaeth yr ydym yn ei rhoi i drafnidiaeth gyhoeddus. Mae'r gyllideb yn darparu £53.1 miliwn ychwanegol mewn cysylltiad â'r rheilffyrdd, a'r rheswm pam rydym ni wedi gorfod rhoi cymaint o arian ychwanegol i drafnidiaeth gyhoeddus, rheilffyrdd a bysiau, yn y gyllideb atodol hon ac yn ystod y pandemig, yw oherwydd yr effaith a gafodd y pandemig ar y blwch tocynnau. Pan fyddwn ni’n meddwl yn ôl i'r cyfnod clo, arweiniodd hynny at ostyngiad o 95 y cant i'r defnydd o fysiau a threnau, ac wrth i'r cyfyngiadau lacio, rydym ni wedi gweld adferiad araf ond nid ydym yn ôl i'r ffigurau blaenorol o hyd. Felly, mae'n wir bod angen cymorth Llywodraeth Cymru ar y sectorau hynny o hyd.
Felly, rwy’n credu fy mod i wedi ymateb i amrywiaeth o'r materion hynny a gyflwynwyd y prynhawn yma, ond rwyf i yn awyddus i ddweud ac ailadrodd y byddaf yn derbyn holl argymhellion y Pwyllgor Cyllid, a byddaf yn darparu ymateb manylach i bob un o'r argymhellion hynny ar ffurf ysgrifenedig.