Part of the debate – Senedd Cymru am 4:56 pm ar 22 Mawrth 2022.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Felly, mae'r unig bleidlais y prynhawn yma ar eitem 9 ar Reoliadau’r Dreth Gyngor (Anheddau Gwag Hirdymor ac Anheddau a Feddiennir yn Gyfnodol) (Cymru) 2022. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig yma, felly, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 36, neb yn ymatal, 13 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i gymeradwyo.