Plant mewn Gofal

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 22 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:59, 22 Mawrth 2022

Diolch i Rhys ab Owen am y cwestiwn. Mae gormod o blant yn cael eu cymryd oddi wrth eu teuluoedd a'u rhoi yn y system ofal yng Nghymru. Mae'r niferoedd wedi codi bob blwyddyn dros y ddau ddegawd diwethaf. Rhoddodd comisiwn Thomas ddadansoddiad pwerus o'r hanes trist hwn, a gyda'n partneriaid o fewn llywodraeth leol rydym yn parhau i fynd ar drywydd y polisïau a gynigiwyd ganddo.