Canolfan Iechyd Newydd yng Nghaergybi

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 22 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:11, 22 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Mae bron i dair blynedd wedi mynd heibio ers i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr orfod cymryd rheolaeth uniongyrchol dros feddygfeydd Longford Road a Cambria yng Nghaergybi, ac, ydy, mae wedi bod yn gyfnod o her na welwyd ei thebyg o'r blaen i ofal sylfaenol ym mhob man. Ond, ers bron i dair blynedd bellach, mae cleifion yn y ddwy feddygfa hynny wedi gorfod derbyn safon gofal ymhell islaw'r hyn y dylen nhw allu ei disgwyl. Oes, mae canolfan gofal sylfaenol brys newydd ar y ffordd i Ysbyty Penrhos Stanley, ond mae hynny'n wahanol. Ac ydy, mae'r staff yn Longford Road a Cambria yn gwneud popeth o fewn eu gallu o dan amgylchiadau anodd iawn. Ond mae angen canolfan gofal iechyd sylfaenol amlddisgyblaeth newydd arnom ni, sy'n gallu denu staff a darparu'r gwasanaethau angenrheidiol, ac mae ei hangen arnom ar frys. Rwyf i wedi bod yn mynd ar drywydd hyn ers, do, bron i dair blynedd bellach, ond, mewn cyfarfod diweddar gyda'r bwrdd iechyd, daeth yn amlwg i mi fod pethau yn symud yn araf iawn, iawn. A all y Prif Weinidog ddweud wrthyf pryd y byddai'n disgwyl i bobl Caergybi sy'n gleifion yn y meddygfeydd hynny, gael safon y gwasanaeth y dylen nhw allu ei disgwyl? A beth all ef ei wneud i sicrhau'r buddsoddiad hwnnw ar frys—buddsoddiad yr wyf i wedi bod yn galw amdano ers cymaint o amser?