– Senedd Cymru am 2:28 pm ar 22 Mawrth 2022.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw. Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon: mae'r datganiad ar y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru ac adroddiad Comisiwn y Gyfraith ar Dribiwnlysoedd Cymru wedi'i ohirio. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Trefnydd, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, os gwelwch yn dda? Yn gyntaf, hoffwn i ofyn am ddatganiad ynglŷn â mynediad at wasanaethau meddygon teulu. Yn ddiweddar, cysylltodd etholwr â mi ar ôl i'w deulu geisio cael apwyntiad mewn meddygfa, dim ond i gael gwybod y byddai nyrs yn eu galw'n ôl gydag apwyntiad ffôn wedi'i drefnu am dair wythnos ar ôl i'r person geisio cael apwyntiad. Rwy'n deall bod meddygon teulu'n wynebu galwadau sylweddol arnyn nhw, fel y maen nhw yn arferol, ond mae nifer o etholwyr wedi codi gyda mi eu hanawsterau wrth gael apwyntiad gyda meddyg teulu, ac yn enwedig y gallu i weld meddyg wyneb yn wyneb. Ni all pawb ddefnyddio ffôn symudol na chael mynediad i'r rhyngrwyd, felly mae'n bwysig bod pobl yn gallu gweld eu meddyg mewn modd amserol mewn ffordd sy'n diwallu eu hanghenion.
Yn ail, Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad brys ynghylch gwasanaethau yn Ysbyty Prifysgol y Faenor? Mae'n gwbl anffodus bod yn rhaid i mi roi gwybod i'r Siambr am stori dorcalonnus arall am etholwr sydd wedi'i siomi gan faterion yn yr ysbyty. Mae'r stori benodol honno'n ymwneud ag etholwr, mam 99 oed sydd wedi marw ers hynny, yn anffodus. Arhosodd hi dros wyth awr gyda chlun wedi torri i ambiwlans gyrraedd. Yna cafodd ei gorfodi i aros y tu allan i'r ysbyty mewn ambiwlans oer am nifer o oriau. Yn y cyfamser ceisiodd ei merch ffonio'r ysbyty i ddarganfod beth oedd wedi digwydd, ond ni wnaeth unrhyw adran yr oedd angen iddi gysylltu â hi ateb. Rwyf i eisiau'i gwneud yn glir nid bai staff, meddygon a nyrsys yw hyn, ond diffyg strwythurau digonol, y mae angen i'r bwrdd iechyd a Llywodraeth Cymru ymdrin â nhw o'r diwedd. Mae angen i'r Llywodraeth a'r bwrdd iechyd fynd i'r afael â'r ffaith bod pobl yn haeddu gwell, ac ni ddylem ni orfod parhau i godi'r materion hyn yn gyson yn y Siambr a darganfod bod dim byd yn cael ei wneud yn eu cylch a dim gwelliant. Felly, mae'n flin gennyf i, Trefnydd, y byddaf i'n codi'r pethau hyn ymhellach os na allwn ni gael datganiad a rhywfaint o gynnydd ar y pethau hyn. Diolch yn fawr, Llywydd.
Diolch i Peter Fox am y ddau gais yna. O ran mynediad at wasanaethau meddygon teulu, byddwch chi'n ymwybodol bod etholwyr, drwy gydol pandemig COVID-19, wedi gallu cael mynediad at eu meddyg teulu drwy ymgynghoriadau dros y ffôn, drwy ymgynghoriadau fideo. Ac, wrth gwrs, nid meddyg teulu yw'r un y mae angen i rywun ei weld bob tro; mae'n bwysig iawn eu bod yn gweld y person mwyaf priodol, ac weithiau nid yw hwnnw'n feddyg teulu. Ond rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gallu gweld llawer mwy o ymgynghoriadau wyneb yn wyneb yn digwydd wrth i ni ddod allan o'r pandemig. Ac yr ydych chi'n hollol gywir—nid oes gan bawb fynediad at dechnoleg, ac yn bersonol, rwy'n credu ei fod yn fater, i bob meddygfa sicrhau bod cleifion yn gallu cael gafael ar y gwasanaethau.
O ran ysbyty'r Faenor, yr oedd yn sicr yn erchyll clywed eich stori chi am eich etholwr, ac mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn y Siambr ac wedi clywed hynny. Rwy'n credu y dylech chi ysgrifennu ati ynglŷn â'r achos penodol, ond bydd y Gweinidog wedi clywed y pwyntiau cyffredinol yr oeddech chi wedi'u gwneud, am ysbyty'r Faenor a'r gwasanaeth ambiwlans.
Mi hoffwn i gael datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog iechyd yn ymateb i bryderon sydd gen i ynglŷn ag arafwch bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr i ymateb i ymholiadau a chwynion. Mae yna un achos yn sefyll allan yn benodol, yn ymwneud ag ymholiad ar ran etholwraig sy'n dioddef o COVID hir. Rŷn ni'n dal i aros am ymateb llawn i ymholiad ers mis Mai 2021 am y driniaeth a'r gefnogaeth sydd ar gael iddi hi. Mae yna deulu arall yn aros ers mis Tachwedd am ymateb i gŵyn ar ran eu diweddar fam am y driniaeth a dderbyniodd hi tra'n glaf ar ward yn Ysbyty Gwynedd. Maen nhw'n bryderus iawn bod yna wersi sylfaenol am ofal sydd angen eu dysgu, ac yn rhwystredig iawn eu bod nhw'n dal i aros am atebion.
Mae yna lawer o enghreifftiau tebyg, mae gen i ofn. Ddylwn i ddim bod yn gorfod eu codi nhw yn fan hyn, mewn difri; dylen nhw fod yn cael eu datrys gan y bwrdd iechyd. Ond mi hoffwn i adolygiad gael ei gynnal o'r prosesau sy'n cael eu dilyn, ac i ddatganiad adlewyrchu canfyddiadau'r adolygiad hwnnw wedyn.
Diolch. Rwy'n cytuno—yn eithaf aml mae ymatebion amserol yn bwysig iawn pan fyddwn ni'n ymdrin â materion emosiynol iawn. Rwy'n credu mai'r ffordd fwyaf priodol ymlaen fyddai i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol godi hyn gyda chadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn eu cyfarfodydd rheolaidd.
Gan fod Llywodraeth Cymru nawr yn uwch noddwr ar gyfer derbyn ffoaduriaid o Wcráin, rydym ni'n gobeithio y byddwn ni nawr yn gallu gweld pobl yn cyrraedd y wlad hon er mwyn manteisio ar y cynigion caredig iawn y mae cynifer o bobl ledled Cymru wedi'u gwneud. Yng ngoleuni cyrhaeddiad disgwyliedig y bobl hyn y mae gwir angen ein cefnogaeth arnyn nhw, yr oeddwn i'n meddwl tybed a allem ni gael datganiad gan Weinidog yr economi ynghylch a fyddai'n bosibl caniatáu mwy o hyblygrwydd yn y meini prawf ariannu ReAct ar gyfer galluogi ffoaduriaid i fanteisio ar wersi Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill, a fyddai hefyd yn llenwi'r lleoedd gwag sydd gennym ni yn rhai o'n hysgolion ieithoedd nad ydyn nhw wedi gallu recriwtio cymaint o fyfyrwyr tramor oherwydd effaith barhaus COVID.
Diolch. Fel y gwyddoch chi, yn wir, mae Llywodraeth Cymru wedi cael statws uwch noddwr, ac rwy'n gwybod bod fy nghyd-Aelod Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, wedi bod yn gweithio'n agos iawn ac yn galed iawn gyda Llywodraeth y DU i sicrhau ein bod ni'n gallu derbyn pobl o amgylchiadau erchyll sydd mewn gwir angen. Gwn i fod swyddogion yn gweithio'n agos iawn gyda darparwyr Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill a'r sector addysg ledled Cymru i asesu pa gapasiti presennol mewn ysgolion sydd yn y system, ac i gymryd unrhyw gamau angenrheidiol i sicrhau y gallan nhw ddarparu'r cymorth di-oed a thymor hwy hwnnw i'r bobl hynny o Wcráin sy'n dod i Gymru. Mae hynny'n cynnwys gwaith i sicrhau bod y rhai sy'n cyrraedd yn gallu cael gafael ar gymorth priodol, gan gynnwys tai, gofal iechyd, gofal plant, addysg, budd-daliadau a chyflogadwyedd, ac mae hynny'n cynnwys rhaglen ReAct.
Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, yn amlinellu na fydd hi'n ystyried mater y tâl 10 y cant sy'n ymwneud â gwerthu cartrefi mewn parciau yn breifat. Rwyf i wedi siarad â thrigolion cartrefi mewn parciau ledled fy etholaeth am hyn. Mae hyn wedi bod yn digwydd ers 2013. Mae preswylwyr cartrefi mewn parciau wedi bod yn aros naw mlynedd i'r tâl annheg hwn gael ei dynnu o'r llyfr statud. Mae cartrefi mewn parciau dal yn cael mynnu 10 y cant o'r pris gwerthu gan unigolion preifat sy'n byw mewn cartrefi mewn parciau. Penderfynodd y Gweinidog ar y pryd, Rebecca Evans, ar ôl llawer o ymgynghori, y byddai'r 10 y cant yn gostwng i 5 y cant ar y mwyaf dros gyfnod o bum mlynedd—roedd hyn i fod yn deg i'r ddwy ochr. Felly, a wnewch chi ofyn i'r Gweinidog ddod i'r Siambr i egluro pam na fydd yn ystyried hyn eto a pham y mae perchnogion cartrefi mewn parciau'n cael eu hesgeuluso a'u siomi dro ar ôl tro?
Yn sicr, fe wnaf i siarad â'r Gweinidog Newid Hinsawdd. Yn ôl yr hyn yr wyf i'n ei ddeall, gyda nifer enfawr o ymrwymiadau'r rhaglen lywodraethu, ac ati, o fewn ei phortffolio, roedd hyn yn rhywbeth nad oedd hi'n teimlo y gallai hi roi adnoddau iddo, yn sicr ar gyfer y tymor byr, ac yna efallai'r tymor hwy yn nhymor y Llywodraeth. Felly, fe ofynnaf iddi a fyddai hi cystal â darparu datganiad ysgrifenedig yn egluro'r sefyllfa.
Gaf i ofyn am ddatganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog iechyd yn amlinellu pa gamau y mae hi wedi eu cymryd ers i'r newyddion trasig am ddau ddigwyddiad difrifol arall yn uned fasgiwlar Ysbyty Glan Clwyd ddod i'r fei yr wythnos diwethaf? Mae'n rhaid i gleifion, eu teuluoedd, a'r cyhoedd yn Arfon, a thu hwnt, gael sicrwydd bod y Llywodraeth yn troi pob carreg i sicrhau bod yr uned yn ddiogel ac mai ateb dros dro ydy cynnal triniaethau yn Lerpwl. Mae'r ddau ddigwyddiad yma yn dod yn sgil adroddiadau damniol ac ar ôl i'r Gweinidog gyhoeddi bod yr uned mewn mesurau arbennig o ymyrraeth sylweddol. Onid ydy hi'n bryd codi'r lefel o ymyrraeth i'r lefel ddwysaf posib ar unwaith, yn hytrach na disgwyl dau fis arall, fel mae'n ymddangos y mae'r Gweinidog yn bwriadu ei wneud? Rydyn ni angen ein hargyhoeddi bod pob dim posib yn cael ei wneud, a bod hynny'n cael ei wneud ar fyrder.
Wel, fel y credaf eich bod chi newydd gyfeirio ato yn eich cwestiwn, mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi rhoi tri mis i'r bwrdd iechyd ymdrin â'r materion hyn, i ddechrau ar unwaith. Rydym ni nawr fis i mewn i hynny, a gwn i ei bod hi wedi cael yr wybodaeth ddiweddaraf fisol gyntaf gan y bwrdd iechyd, a gwnaeth hi hefyd gyfarfod â chadeirydd y bwrdd iechyd i drafod y mater yn gynharach y mis hwn. Rwy'n gwybod ei bod hi'n siomedig iawn o glywed am broblemau eraill gyda gwasanaethau fasgwlaidd, ac yn sicr mae ein meddyliau gyda'r teuluoedd yr effeithiwyd arnynt. Gwn i, unwaith eto, fod y Gweinidog wedi croesawu'r gefnogaeth sy'n cael ei gynnig gan rwydwaith gwasanaeth fasgwlaidd Lerpwl, a bydd yn parhau i fonitro'r sefyllfa'n ofalus iawn. Bydd adroddiad arall ar yr wybodaeth ddiweddaraf yn dod iddi ac rwy'n siŵr y bydd naill ai'n ailystyried neu'n parhau â'r ffordd i reoli'r sefyllfa y mae hi wedi'i hamlinellu i'r bwrdd iechyd.
Gweinidog, hoffwn i ofyn am ddatganiad ar safonau prydau ysgol yn Ysgol Dyffryn Taf yn Hendy-gwyn ar Daf, neu'n hytrach ynghylch y diffyg safonau. Mae adroddiadau diweddar yn y wasg wedi dangos rhai delweddau eithaf annymunol o fwyd heb ei goginio'n ddigonol a bwyd llawn dŵr, gan gynnwys cig, sydd wedi'i weini i ddisgyblion yn ystod yr wythnosau diwethaf. Ac os nad oedd hynny'n ddigon gwael, mae llawer o ddisgyblion a rhieni wedi dweud bod maint y dognau'n fach iawn, gan adael y plant yn llwglyd. Gwyddom ni pa mor bwysig yw cael pryd da, ac mae stumog lawn yn galluogi disgyblion i ddysgu a chanolbwyntio hefyd, ac, i rai disgyblion, gwyddom ni hefyd mai dyma fydd eu prif bryd o fwyd. Ceir adroddiadau bod llawer o ddisgyblion wedi bod yn mynd heb ginio oherwydd ansawdd gwael y bwyd hwnnw, ac, yn ôl gwefan yr ysgol, Cyngor Sir Caerfyrddin sy'n rhedeg y ffreutur. Rwy'n deall bod y pennaeth mewn trafodaethau gyda'r awdurdod lleol ynglŷn â'r mater ac mae prydau poeth wedi'u hatal ers dechrau'r wythnos hon. Mae hynny, yn fy marn i, yn gwbl annerbyniol ac ni fydd disgyblion yn gallu cael unrhyw fwyd poeth. Mae'n fater difrifol, ac mae'n codi rhai cwestiynau difrifol y byddwn i'n annog Llywodraeth Cymru i'w codi gyda'r ysgol a gyda'r awdurdod lleol. A dim ond oherwydd bod disgyblion wedi rhannu eu delweddau a'u pryderon ar y cyfryngau cymdeithasol y gwnaethant sylweddoli bod y bwyd hwn yn gwbl annigonol ac, mewn rhai achosion, mae modd dadlau nad oedd yn addas i'w fwyta gan bobl. Felly, yn dilyn y sgandal hwn—ac mae yn sgandal—hoffwn i ofyn hefyd i Lywodraeth Cymru sicrhau nad yw'n digwydd mewn ysgolion eraill ledled Cymru, a bod disgyblion yn cael cynnig prydau maethlon o ansawdd uchel sy'n addas i'w bwyta gan bobl a'u llenwi hefyd.
Diolch. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog Addysg a'r Gymraeg yn ymwybodol o'r achos yr ydych chi'n cyfeirio ato, ac mae'n amlwg bod defnyddio deiet mwy maethlon yn ystod y diwrnod ysgol yn gwbl angenrheidiol am sawl rheswm, yr ydych chi wedi cyfeirio atyn nhw. Mae gan Lywodraeth Cymru Reoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Safonau a Gofynion Maeth) (Cymru) 2013. Maen nhw'n nodi'r mathau o fwyd a diod y gellir eu darparu yn ystod y diwrnod ysgol ac yn diffinio cynnwys maethynnau ciniawau ysgol sy'n cael eu darparu ar gyfer disgyblion. A holl bwynt hynny yw gwella'r safonau maeth sy'n cael eu gweini mewn ysgolion ledled Cymru, a sicrhau bod ein plant ni a'n pobl ifanc ni'n cael cynnig bwyd iach drwy gydol y diwrnod ysgol. Gwn i fod swyddogion y Gweinidog wedi bod yn gweithio gyda'r awdurdod lleol i sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto, ac mae'n bwysig iawn, os ydym ni'n ystyried unrhyw newidiadau sydd eu hangen, mai'r prif beth yw ystyried sut y gallwn ni gydymffurfio'n well â rheoliadau ledled Cymru, a byddan nhw’n cael eu hystyried fel rhan o'r gwaith o fonitro ein bwyd ysgol.
Rwy'n gofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn dilyn penderfyniad yr Uchel Lys ddoe i beidio â derbyn y waharddeb y gwnaeth gais amdani o ran sicrhau y gall y pŵer barhau ym Mharc Ynni Baglan tan fod cysylltiad newydd wedi'i gwblhau. Mae llawer o fy etholwyr i'n cael eu cyflogi yn y busnesau niferus sydd wedi'u lleoli yn y parc ynni, ac mae'r penderfyniad hwn nawr yn peryglu eu dyfodol ar adeg pan fo'r argyfwng costau byw eisoes yn peri pryder. Mae penderfyniad ddoe nawr yn agor y drws i'r derbynwyr swyddogol i ddechrau torri pŵer i'r busnesau hynny, a gallai hynny olygu colli dros 1,000 o swyddi sy'n talu'n dda, gan nad yw busnesau nawr yn gallu parhau i weithredu. Felly, mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am y camau y bydd yn eu cymryd yn awr i ddiogelu'r swyddi hynny yn yr economi leol. Bydd y penderfyniad hwn hefyd yn cael effaith enfawr ar yr amgylchedd ac ansawdd yr aer wrth i ffynonellau ynni eraill gael eu cyflwyno, a fydd bron yn sicr yn wael iawn i'r amgylchedd.
Diolch. Rwy'n gwybod bod Gweinidog yr Economi a'i swyddogion wedi bod yn gweithio'n agos iawn ar y mater hwn, a bydd Gweinidog yr Economi yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig heddiw.
Diolch, Trefnydd.