Part of the debate – Senedd Cymru am 4:41 pm ar 22 Mawrth 2022.
Wel, bydd pawb yma yn ymwybodol o odidogrwydd Dwyfor a Meirionydd, yr etholaeth y mae gen i'r fraint anhygoel o'i chynrychioli. Ond tra bod ymwelwyr yn mwynhau prydferthwch rhyfeddol y lle, y gwir ydy bod teuluoedd yn gorfod crafu byw yno, efo incwm y pen ymhlith yr isaf yn y wladwriaeth a gwerth tai wedi saethu i fyny. Yn wir, yn ddiweddar, clywsom ni am gyt ar lan traeth Abersoch yn gwerthu am £200,000. Mae fy swyddfa i o dan y don ar hyn o bryd efo pobl yn cysylltu eisiau cymorth yn ymwneud â thai: rhieni ifanc yn ddigartref; rhieni sy'n gweithio yn y sector gyhoeddus, yn gweithio yn y sector breifat, yn ennill incwm ond yn byw'n ddigartref; babanod yn cael eu magu mewn tai cwbl anaddas, efo mamau, yn amlach na pheidio, yn gorfod cario'r goetsh i fyny efo'r siopa a'r baban yn y llaw, a gadael y goetsh i lawr er mwyn mynd i fyny i lofft tamp—tai yn gwbl anaddas ar eu cyfer nhw. O Aberdyfi, Beddgelert, Criccieth, Morfa Nefyn a phob cymuned arall rhyngddyn nhw, mae un o bob pedwar tŷ mewn llawer o'r cymunedau yma, ac weithiau un o bob dau o dai, yn eistedd yn wag am y rhan fwyaf o'r flwyddyn, tra bod y teuluoedd yma, yn magu'u plant mewn tai anaddas, yn orlawn efo neiniau a theidiau ac aelodau eraill o'r teulu ehangach, yn gorfod edrych ar y tai yn eistedd yn wag.
Fel y dywedodd Llyr, mae'n argyfwng ac mae'n gwbl anfoesol. Mae'n rhaid cymryd camau er mwyn datrys hyn, a dwi'n siarad ar ran pob un o'r bobl yma dwi wedi gweld yn ystod yr wythnosau diwethaf sydd yn byw mewn cartrefi anaddas, sydd yn ddigartref, a dwi'n croesawu unrhyw gam sy'n cael ei gyflwyno er mwyn ceisio cywiro'r anghyfiawnder enbyd yma.