Part of the debate – Senedd Cymru am 4:23 pm ar 22 Mawrth 2022.
Diolch. Rwy'n croesawu'r cyfle i gyflwyno'r rheoliadau hyn heddiw. Mae Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Anheddau Gwag Hirdymor ac Anheddau a Feddiennir yn Gyfnodol) (Cymru) 2022 yn cynyddu'r lefel uchaf y gall awdurdodau lleol bennu premiymau'r dreth gyngor ar anheddau a feddiennir yn gyfnodol—y cyfeirir atyn nhw yn fwy cyffredin fel ail gartrefi—ac ar eiddo gwag hirdymor, o 100 y cant i 300 y cant. Mae'r mesurau'n rhan o ymrwymiad ehangach i fynd i'r afael â phroblem ail gartrefi a thai nad ellir eu fforddio y mae llawer o gymunedau yn eu hwynebu, fel y nodir yn y cytundeb cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.
Yr haf diwethaf, buom yn ymgynghori ar drethi lleol ar gyfer ail gartrefi a llety hunanarlwyo. Roedd hon yn un agwedd ar ddull tair elfen Llywodraeth Cymru o fynd i'r afael â phroblemau yn ymwneud ag eiddo fforddiadwy a'r effaith y gall nifer fawr o ail gartrefi a llety gwyliau ei chael ar gymunedau a'r iaith Gymraeg. Roedd yr ymgynghoriad yn rhan o adolygiad o'r ddeddfwriaeth dreth leol bresennol. Gofynnwyd am farn a thystiolaeth gan unigolion a sefydliadau ar y pwerau disgresiwn sy'n caniatáu i awdurdodau lleol godi cyfradd uwch o dreth gyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor. Cawsom bron i 1,000 o ymatebion, a oedd yn adlewyrchu ystod eang o ddiddordeb.
Mae'r gallu i godi premiymau treth gyngor ychwanegol wedi'i groesawu fel dull a all helpu awdurdodau lleol i liniaru'r effeithiau negyddol y gall ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor eu cael ar rai cymunedau. Er nad yw llawer o'r cyfleoedd i fynd i'r afael â materion tai drwy bremiymau wedi'u gwireddu'n llawn eto, bydd cynyddu'r lefel uchaf nawr yn galluogi awdurdodau lleol unigol i benderfynu ar lefel sy'n briodol ar gyfer eu hamgylchiadau lleol pan fydd yr amser yn iawn ar eu cyfer. Daw'r pwerau i rym o fis Ebrill 2023. Bydd awdurdodau lleol yn gallu gosod y premiwm ar unrhyw lefel hyd at yr uchafswm, a byddant yn gallu gosod premiymau gwahanol ar ail gartrefi ac anheddau gwag hirdymor. Nawr, mater i awdurdodau unigol fydd penderfynu a ddylid defnyddio premiwm ac ar ba lefel i'w osod. Wrth wneud y penderfyniadau hyn, bydd angen i bob awdurdod asesu'r effeithiau posibl ar unigolion, cymunedau a'r economi leol. Dylai awdurdodau lleol ymgynghori â phobl leol a pherchnogion cartrefi cyn cyflwyno premiymau, gan ganiatáu cyfnod o 12 mis o leiaf rhwng gwneud y penderfyniad cyntaf i gyflwyno premiwm a'r flwyddyn ariannol y mae'n dod i rym ynddi. Gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau hyn heddiw.