Part of the debate – Senedd Cymru am 4:47 pm ar 22 Mawrth 2022.
Diolch, Llywydd, ac rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau hynny sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl heddiw. Rwyf am ddechrau drwy ymateb i'r pwyntiau a wnaed ar ran y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, ac wrth gwrs mae'n wir bod yr adroddiad wedi nodi dau bwynt craffu rhinweddau o dan Reol Sefydlog 21.3, sydd o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol, neu'n codi materion polisi cyhoeddus sy'n debygol o fod o ddiddordeb i'r Senedd. Ac, wrth gwrs, yn ein hymateb, gwnaethom ddatgan ein bod yn fodlon bod y rheoliadau'n gydnaws â hawliau'r confensiwn, a gwnaethom egluro pam yr aethpwyd ar drywydd opsiwn 2 o'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn hytrach nag opsiwn 1, ac yna aeth y pwyllgor ymlaen i gael ymateb Llywodraeth Cymru, yn dilyn cyngor gan gyfreithiwr y Senedd, a chadarnhaodd eu bod yn fodlon â'r ymateb. Ond fe wnaf fyfyrio rhywfaint ar y pwyntiau a godwyd ar ran y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, gan Rhys ab Owen a hefyd gan Peter Fox y prynhawn yma.
Bydd y rheoliadau hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i awdurdodau lleol, a gallant roi mwy o gymorth i gymunedau lleol wrth fynd i'r afael â'r effeithiau negyddol gwirioneddol y gall ail gartrefi ac eiddo ecwiti hirdymor eu cael, a dyma un o'r dulliau sydd ar gael i ni i greu system decach. Ac, fel yr oedd Llyr Gruffydd yn ei ddweud, dyma un offeryn ymysg llawer. Ac, wrth gwrs, mae'n hanfodol ein bod yn defnyddio'r offerynnau sydd ar gael i ni, a chredaf fod Llyr Gruffydd a Mabon ap Gwynfor wedi nodi'n glir pam y mae'n bwysig ein bod yn mynd i'r afael â'r mater hwn.
Un o'r offerynnau eraill a fydd ar gael i ni yw mater y trothwyon ar gyfer llety gwyliau. Fodd bynnag, nid dyna'r hyn yr ydym yn ei drafod y prynhawn yma. Felly, caiff James Evans a Mark Isherwood gyfle i gyfrannu ynghylch y rheoliadau hynny maes o law. Mae ymgynghoriad technegol ar agor ar hyn o bryd ar gyfer ymateb, felly rwy'n siŵr y byddan nhw'n manteisio ar y cyfle i ymateb i'r ymgynghoriad technegol hwnnw, sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd.
Byddwn yn amlwg yn parhau i wneud pob ymdrech i gynyddu cyflenwad a fforddiadwyedd cartrefi, ac rydym wedi dangos yr ymrwymiad hwnnw yn y £1 biliwn o gyllid i adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel, a gynhwyswyd yn ein cyllideb derfynol, a gymeradwywyd ar 8 Mawrth. Ac rydym hefyd yn cymryd camau pwysig i fynd i'r afael â mater cartrefi gwag, oherwydd rydym yn cydnabod, wrth gwrs, y gall anheddau gwag, ac yn enwedig y rheini sydd wedi bod yn wag am gyfnodau hir, achosi problemau gwirioneddol i gymunedau lleol. Rydym wedi mabwysiadu dull system gyfan, wedi'i ategu gan fuddsoddiad sylweddol, i fynd i'r afael â'r materion hyn. Yn y flwyddyn ariannol hon yn unig, rydym wedi sicrhau bod £11 miliwn ar gael i awdurdodau lleol yr effeithir ar eu cymunedau gan berchenogaeth ail gartrefi a llety gwyliau, fel y gallan nhw brynu ac adnewyddu'r cartrefi gwag hynny ar gyfer tai cymdeithasol. Mae hwnnw'n ymyriad pwysig iawn. A hefyd, rydym wedi cael ceisiadau am gyllid yn ddiweddar gan awdurdodau lleol sir Gaerfyrddin a sir Benfro, yn ceisio cymorth gyda phrynu ac adnewyddu cartrefi gwag, ac mae'r ceisiadau hynny'n dod i gyfanswm o dros £13.5 miliwn.
Wrth gwrs, gall awdurdodau lleol ddefnyddio'r refeniw a godir o bremiymau i fynd i'r afael â materion sy'n effeithio ar y cyflenwad lleol o dai fforddiadwy, gan gynnwys defnyddio tai gwag unwaith eto. Mae nifer o awdurdodau lleol eisoes wedi defnyddio'r premiwm—hyd yma, 11 ohonyn nhw—i fynd i'r afael â materion cartrefi gwag hirdymor neu ail gartrefi neu'r ddau. Mae Gwynedd ac Abertawe wedi gosod y premiwm ar yr uchafswm presennol, sef 100 y cant ar gartrefi, ac roedd hynny o 1 Ebrill 2021. Bydd sir Benfro yn gwneud hynny o 1 Ebrill 2022, ac mae Ynys Môn, Gwynedd, sir Benfro ac Abertawe hefyd wedi gosod premiwm o 100 y cant ar anheddau gwag hirdymor. Felly, mae'n amlwg bod awydd yma ar ran awdurdodau lleol i ymgysylltu â'r offeryn newydd yr ydym yn ei ddarparu iddyn nhw, a byddan nhw'n gwneud hynny ar ôl ymgynghori'n lleol ac ar ôl gwneud y penderfyniad hwnnw o fewn eu cynghorau ar yr adeg sy'n iawn iddyn nhw, a phennu'r lefel ar y pwynt sy'n iawn iddyn nhw, a dyna beth fydd y rheoliadau hyn heddiw yn eu galluogi nhw i'w wneud.
Felly, yn olaf, fel yr amlinellais yn fy natganiad ar ddiwygio'r dreth gyngor ym mis Rhagfyr, ein huchelgais yw bod diwygiadau i'r dreth gyngor wedi'u cynllunio i sicrhau bod cyfraniadau gan aelwydydd yn cael eu gwneud mor deg â phosibl—meiddiaf ddweud, Llywydd, y ffordd sosialaidd—gan hefyd ar yr un pryd, gynnal ei swyddogaeth fel ffrwd refeniw sylweddol, sydd, wrth gwrs, yn helpu i ariannu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol ledled Cymru. Wrth gwrs, byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ddatblygiadau. Diolch.