9. Dadl Fer: Cefnogi cymunedau sy'n wynebu risg parhaus o lifogydd: A yw'n amser sefydlu fforwm llifogydd i Gymru?

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:23 pm ar 23 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 6:23, 23 Mawrth 2022

Mi wnaeth adolygiad Cyfoeth Naturiol Cymru i'r llifogydd yn Chwefror 2020, wrth gwrs, amlygu bod angen rhyw 60 neu 70 o staff uwchben y waelodlin staffio a oedd ganddyn nhw ar yr adeg hynny er mwyn sicrhau gwelliannau cynaliadwy, hirdymor i'r gwasanaeth rheoli llifogydd. Nawr, mi wnaeth y Llywodraeth, er tegwch, ddarparu'r ariannu hynny ar drefniant dros dro. Mi godais i gyda'r Prif Weinidog rai misoedd yn ôl y byddai'n ffôl iawn peidio parhau â'r ariannu hynny gan fod y swyddi wedi'u creu, ac mi wnaeth e gytuno y byddai'n gwneud synnwyr i barhau â'r rheini. Nawr, dwi'n ymwybodol bod yr adolygiad yn digwydd rhwng y Llywodraeth a Cyfoeth Naturiol Cymru ar eu hariannu nhw ar hyn o bryd, ond dwi jest eisiau tynnu sylw at adroddiad sydd wedi cael ei gyhoeddi gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith heddiw, fel mae'n digwydd, yn dilyn ein craffu blynyddol ni ar Cyfoeth Naturiol Cymru, sydd yn amlygu barn y pwyllgor y dylai ariannu Cyfoeth Naturiol Cymru fod yn gymesur â'i rolau a'i gyfrifoldebau, ac, wrth gwrs, diolch i Heledd, mae llifogydd yn un enghraifft amlwg o hynny, a rŷn ni'n gobeithio'n fawr iawn y bydd y Llywodraeth yn diwallu'r angen hwnnw ar ddiwedd yr adolygiad ariannu y maen nhw wrthi'n ei gynnal ar hyn o bryd.