Part of the debate – Senedd Cymru am 6:25 pm ar 23 Mawrth 2022.
Hoffwn nodi sut y mae'r Llywodraeth yn cefnogi cymunedau sydd mewn perygl o lifogydd ac a ydym yn teimlo ei bod yn bryd sefydlu fforwm llifogydd i Gymru.
Drwy'r strategaeth llifogydd a gyhoeddwyd yn 2020, mae gennym strategaeth gynhwysfawr sy'n nodi ein mesurau hirdymor ar gyfer lleihau'r perygl o lifogydd ledled Cymru. Roedd y strategaeth ei hun yn pwyso ar wersi a ddysgwyd o stormydd mis Chwefror 2020 a effeithiodd yn drasig ar lawer o'n cymunedau. Ac yn awr, drwy'r rhaglen lywodraethu a'r cytundeb cydweithio, rydym wedi nodi amcanion clir a phecyn buddsoddi ategol sylweddol i leihau perygl llifogydd ac erydu arfordirol.
Bydd yr Aelod yn ymwybodol fod Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn cydweithio'n agos i ddatblygu cwmpas a chylch gorchwyl yr adolygiad annibynnol o adroddiadau adran 19 awdurdodau lleol ac adolygiad Cyfoeth Naturiol Cymru o'i ymateb i lifogydd mis Chwefror 2020. Rydym yn bwriadu gwneud cyhoeddiad ar yr adolygiad gydag Aelod dynodedig maes o law, ac mae'n debygol y bydd yr adolygiad hwn yn ystyried mater fforwm llifogydd i Gymru. Felly, credaf y byddai'n well peidio â rhwystro'r broses hon a chaniatáu i'r adolygiad ddatblygu argymhellion inni eu hystyried a'u gweithredu. Ar wahân i'r adolygiad annibynnol o adroddiadau adran 19, y mae'r Aelod dynodedig a'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn ei arwain, mae pwyllgor annibynnol Cymru ar lifogydd ac erydu arfordirol, dan gadeiryddiaeth Martin Buckle, yn cynnal adolygiadau fel rhan o'i raglen waith, gan gynnwys egluro rolau a chyfrifoldebau sy'n ymwneud â gweithgarwch rheoli perygl llifogydd.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymchwil yn 2013 o'r enw 'Gwasanaeth Eiriolaeth a Chymorth Llifogydd i Gymunedau yng Nghymru'—nid yw'n deitl bachog iawn, ond mae'n gwneud yr hyn y mae'n ei ddweud ar y tun. Cynlluniwyd hwn i ddarparu argymhellion ymarferol ar gyfer datblygu darpariaeth cymorth llifogydd yng Nghymru ac arweiniodd at ein cyllid i Cyfoeth Naturiol Cymru i reoli'r gwaith o godi ymwybyddiaeth a meithrin cydnerthedd o fewn cymunedau. Ac nid wyf yn teimlo bod y gwaith sy'n cael ei wneud gan y Fforwm Llifogydd Cenedlaethol a Fforwm Llifogydd yr Alban yn wahanol iawn i'r hyn yr ydym eisoes yn ei gyflawni yma yng Nghymru drwy weithredu ein strategaeth llifogydd. Mae'r broses o weithredu ein polisi yn cael ei hadolygu'n gyson ac rydym ni a'n partneriaid cyflawni yn ceisio mynd i'r afael â bylchau lle mae'r rhain yn bodoli a dysgu o arferion da. Ac rydym yn parhau i ddysgu o'r digwyddiadau a'n systemau sy'n gwella. Dros y 18 mis diwethaf, rydym wedi bod yn falch o weld pa mor dda y mae ein hawdurdodau rheoli risg wedi gweithio gyda'i gilydd, nid yn unig wrth gynnal eu hymchwiliadau ond hefyd wrth gyflawni gwelliannau i'r cymunedau hynny yr effeithir arnynt, ac rwy'n disgwyl gweld y math hwn o gydweithio'n parhau wrth i ni gynyddu ein hymgysylltiad a'n darpariaeth ar gyfer lleihau'r perygl o lifogydd ledled Cymru.
Nid yw buddsoddi yn y maes hwn erioed wedi bod mor bwysig, a dyna pam y cyhoeddasom becyn ariannu ar gyfer rhaglen llifogydd 2022-23 yr wythnos diwethaf, a dyma ein rhaglen lifogydd fwyaf erioed, gyda chyfanswm o dros £71 miliwn y flwyddyn nesaf, gyda dyraniad tair blynedd o dros £214 miliwn, a fydd yn helpu i ddarparu llif cryfach o gynlluniau llifogydd yn y dyfodol a galluogi blaengynllunio gwell. Bydd y pecynnau hyn hefyd yn ein helpu i gyflawni'r ymrwymiad i fynd i'r afael â llifogydd fel y nodir yn y cytundeb cydweithio rhyngom ni a Phlaid Cymru.
Ac rwy'n ddiolchgar, Ddirprwy Lywydd, am gyfraniad enfawr staff awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, cwmnïau dŵr, gwasanaethau brys a wardeiniaid llifogydd cymunedol, sy'n chwarae eu rhan i ddiogelu ein cymunedau drwy ymateb a thrwy gyflwyno mesurau i leihau perygl llifogydd. Wrth i'r hinsawdd newid, rhaid i bob un ohonom ddysgu addasu. Rydym yn edrych tua'r dyfodol, gan annog ffyrdd newydd o weithio, a sicrhau ar yr un pryd fod ein seilwaith hanfodol yn cadw ein cymunedau'n ddiogel. Diolch.