Cyfleoedd Cyflogaeth i Bobl Anabl

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 23 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 1:31, 23 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich cwestiwn. Rydym yn parhau i gymryd ystod o gamau i helpu i wella cyfleoedd economaidd i bobl anabl. Mae hynny’n cynnwys sefydlu, yn 2020, rhwydwaith Llywodraeth Cymru o hyrwyddwyr cyflogaeth pobl anabl i ymgysylltu â chyflogwyr i hyrwyddo cyflogaeth i bobl anabl.