Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 23 Mawrth 2022.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Yn amlwg, nid oedd hyn yn rhan o’r cynllun busnes gwreiddiol, prynu gorsaf bŵer Aberddawan, ac mae’r cynlluniau a gyflwynwyd yn ddeinamig, a bod yn deg, gyda photensial i greu 5,000 o swyddi yn y tymor canolig i’r tymor hir. Yn eich trafodaethau, a ydych wedi asesu faint o alw a allai fod ar adnoddau Llywodraeth Cymru—galw ychwanegol ar adnoddau Llywodraeth Cymru—i alluogi i'r cynlluniau ddwyn ffrwyth a fyddai’n arwain at greu’r 5,000 o swyddi hyn a’r potensial i ddatblygu prosiectau ynni gwyrdd yno? Oherwydd mae llawer o waith adfer i'w wneud ar y safle, ond byddwn yn awgrymu y bydd problemau ychwanegol gydag adnoddau mewn perthynas â denu buddsoddiad newydd hefyd.