Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 23 Mawrth 2022.
—yn adlewyrchu’r duedd barhaus lle mae cyflogau yng Nghymru wedi aros yn eu hunfan ers llawer gormod o amser o dan Lywodraethau Llafur olynol. Ond rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog, yn ei gyfnod yn y portffolio, yn mynd yn groes i’r duedd hon, ac rwy'n golygu hynny o ddifrif. Ond sut y mae'n argymell y dylem fynd i'r afael â'r draen dawn pan fo cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn hyrwyddo economi cyflogau isel, a sut y gallwn fesur ei lwyddiant? Oherwydd yn sicr, nid wyf i'n dymuno dod yn ôl at y Gweinidog i dynnu sylw at hyn eto, a byddwn yn gobeithio na fydd angen i unrhyw un o fy olynwyr wneud hynny ychwaith.