Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 23 Mawrth 2022.
Mae ein strategaeth, 'Croeso i Gymru: Blaenoriaethau i’r Economi Ymwelwyr 2020-2025', yn nodi ein gweledigaeth a'n huchelgais ar gyfer y sector. Hefyd wrth gwrs, mae gennym gynllun adfer llunio’r weledigaeth a gyhoeddwyd flwyddyn yn ôl. Yn y gyllideb ar gyfer 2022-23, rydym wedi nodi dyraniad o £47 miliwn dros dair blynedd i gyflawni'r blaenoriaethau hynny.