Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 23 Mawrth 2022.
Mae COVID wedi cyflymu'r duedd a welwn, gyda'r newid yn y defnydd o ganol trefi a dinasoedd ac yn arbennig, pan oedd y pandemig ar ei anterth, roedd hi'n amlwg ei fod yn lleihau'r galw am fanwerthu ar y stryd fawr. Dyna pam, ym mis Ionawr 2020, y gwnaethom lansio'r rhaglen Trawsnewid Trefi i helpu i gefnogi busnesau yng nghanol trefi, ac mae honno bellach yn cael ei harwain gan fy nghyd-Weinidog, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd.