Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 23 Mawrth 2022.
Diolch am eich ymateb, Weinidog. Nawr, mae cynllun cyflogadwyedd a sgiliau Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i adolygu addysg oedolion a dysgu gydol oes a gwella ansawdd a mynediad at ddysgu ffurfiol ac anffurfiol i oedolion sy’n seiliedig ar sgiliau, ac rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno â mi, Weinidog, y gall cyrsiau byrrach fod yn fwy effeithiol na llwybrau eraill weithiau am gau bylchau sgiliau. Felly, a wnewch chi ddweud wrthym pryd y bydd yr adolygiad o addysg oedolion a dysgu gydol oes yn cael ei gynnal, ac a wnewch chi ddweud wrthym pa drafodaethau a gawsoch fel Gweinidog yr economi â darparwyr sgiliau ynglŷn â sut y gellir cryfhau’r sector addysg oedolion a dysgu gydol oes yn y dyfodol?