Ardal Mersi a Dyfrdwy

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 23 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 1:49, 23 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich cwestiwn. Rydym yn parhau i gefnogi’r rhanbarth drwy ein fframwaith economaidd rhanbarthol a’n dull datblygu economaidd sy'n seiliedig ar leoedd. Mae Llywodraeth Cymru yn un o sylfaenwyr Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy, fel y gŵyr yr Aelod, ac mae hon yn bartneriaeth o sefydliadau sy’n gweithio i gefnogi’r ardal economaidd weithredol drawsffiniol rhwng gogledd ddwyrain Cymru, gorllewin Swydd Gaer a Wirral.