Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 23 Mawrth 2022.
Diolch. Mae gennyf ddiddordeb mawr yn eich ateb ac rwy'n gwerthfawrogi'r diddordeb yr ydych wedi'i ddangos yng Nghaerdydd a'r Fro. Wrth siarad â fy etholwyr, gwelaf fod llawer gormod o gleifion sy'n mynd at eu meddyg am eu bod yn teimlo iselder, unigrwydd neu bryder yn cael cynnig presgripsiwn yn hytrach na therapïau siarad eraill neu bethau eraill, sy'n cuddio'r broblem a gall arwain at broblemau hirdymor fel agoraffobia. Felly, beth yw eich strategaeth ar gyfer cynyddu nifer y bobl sy'n cael presgripsiwn cymdeithasol i hyrwyddo llesiant, a fyddai wedyn yn rhyddhau amser i'r arbenigwyr iechyd meddwl y cawn gymaint o anhawster yn eu recriwtio i ganolbwyntio ar y problemau iechyd meddwl acíwt a pharhaus hynny?