Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 23 Mawrth 2022.
Diolch yn fawr. Mae Bwrdd iechyd Hywel Dda yn gweithio'n gyflym i sicrhau bod pobl yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn cael mynediad amserol at ofal brys ac argyfwng. Rŷn ni'n cefnogi'r bwrdd iechyd trwy gyllid ychwanegol wedi'i dargedu fel bod modd gwella ansawdd ac amseroldeb y gofal yn yr adran damweiniau ac achosion brys yng Nglangwili.