Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 23 Mawrth 2022.
Diolch am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Y llynedd, gofynnais gwestiwn i chi ynglŷn â'r amseroedd atgyfeirio yn ardal bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro, ac yn enwedig amseroedd atgyfeirio truenus y cyfnod asesu 28 diwrnod, lle'r oedd Caerdydd a'r Fro ond yn asesu traean o gleifion, yn hytrach na chyfartaledd Cymru o ddwy ran o dair o gleifion. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu arian ychwanegol—mae arian ychwanegol sylweddol wedi'i ddarparu. Yn aml iawn, mae'n ymwneud â mwy na'r arian, mae'n ymwneud â sut y caiff ei ddefnyddio. A wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf imi ynghylch pa welliannau y mae cleifion yn ardal Caerdydd a'r Fro wedi'u gweld oherwydd yr arian hwnnw ac yn bwysig, beth yw'r amseroedd atgyfeirio diweddaraf? Oherwydd nid yw asesu traean o gleifion o fewn 28 diwrnod yn ddigon da.