Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 23 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Samuel Kurtz Samuel Kurtz Conservative 2:37, 23 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Weinidog, y prif wasanaeth ysbyty yn etholaeth Adam Price a fy etholaeth i, ar y ffin ddwyreiniol, yw ysbyty Glangwili. Ac rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi fod amseroedd aros yr adran ddamweiniau ac achosion brys yn yr ysbyty hwn yn annerbyniol. Mae'r ffigurau diweddaraf sydd ar gael yn dangos bod 46.5 y cant o gleifion yn treulio mwy na phedair awr yn yr adran ddamweiniau ac achosion brys cyn cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau, ac mae 16.5 y cant—un rhan o chwech o'r holl gleifion—yn treulio mwy na 12 awr yn aros, y gwaethaf yn rhanbarth bwrdd iechyd Hywel Dda i gyd. Un o'r ffactorau sy'n cyfrannu at y cyfraddau hyn yw'r anawsterau y mae ysbytai'n eu hwynebu wrth ryddhau cleifion, gyda'r ôl-groniadau i'w gweld drwy gydol y daith drwy'r ysbyty—rhywbeth y gwn fod y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ymchwilio iddo ar hyn o bryd. Gyda'i bod hi'n ddwy flynedd heddiw ers gosod y cyfyngiadau symud COVID-19  ar y wlad, mae'n bwysig ein bod yn cydnabod y pwysau aruthrol a fu ar ein gweithwyr gofal iechyd proffesiynol am y 24 mis diwethaf a'n bod yn diolch i staff y GIG am eu gwasanaeth. Ond pa gamau yr ydych chi fel y Gweinidog, a Llywodraeth Cymru, yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r ffigurau pryderus hyn a gwella profiad ysbyty i gleifion ledled sir Gaerfyrddin?