Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 23 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 2:40, 23 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Adran ddamweiniau ac achosion brys Ysbyty Treforys yw prif ganolfan ddamweiniau ac achosion brys dwyrain sir Gaerfyrddin, yn enwedig dyffryn Aman, yn ogystal â Chastell-nedd Port Talbot ac Abertawe. Mae'r adran ddamweiniau ac achosion brys yn Nhreforys yn brysur iawn ac mae sawl ambiwlans yn aros y tu allan yn rheolaidd. A yw'r Gweinidog yn cytuno bod angen inni sicrhau bod y rheini nad ydynt yn ddamweiniau neu'n achosion brys yn cael eu gweld naill ai gan eu meddyg teulu neu eu fferyllydd, ac a all y Gweinidog ddweud pa ganran o gleifion damweiniau ac achosion brys sy'n cael eu rhyddhau adref naill ai'n syth ar ôl cael eu gweld neu o fewn 24 awr i gael eu derbyn?