Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 23 Mawrth 2022.
Yn ystod fy nhymor cyntaf yn y Senedd hon ac yn y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, lleisiwyd pryderon am yr oedi hwn a’r fiwrocratiaeth gymhleth mewn perthynas â Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru. Weinidog, a wnewch chi ystyried adolygu’r oedi biwrocrataidd ar driniaethau? Ac a wnewch chi gysylltu â holl fyrddau iechyd Cymru i sicrhau bod ganddynt gytundebau ar waith gyda byrddau iechyd mewn mannau eraill yn y DU sy'n darparu triniaethau nad ydym ni yn eu darparu, a gwneud pethau'n fwy llyfn? Oherwydd mae gennyf lawer iawn o etholwyr yn Aberconwy y mae'r fiwrocratiaeth hon wedi amharu arnynt. Diolch.