Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 23 Mawrth 2022.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, mae dwy flynedd ers inni gyflwyno cyfyngiadau symud COVID ledled Cymru a ledled y DU, ac yn sicr ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, credaf y gallwn i gyd gytuno ar draws y Siambr hon—. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ein cadw'n ddiogel, ac rydym yn cydymdeimlo, wrth gwrs, heddiw yn enwedig, â ffrindiau a theuluoedd y rhai sydd wedi colli anwyliaid yn ystod y pandemig.
Yn ogystal â hynny, mae blwyddyn a diwrnod ers i'ch rhagflaenydd gyhoeddi'r cynllun adfer iechyd a gofal cymdeithasol. A gaf fi ofyn, Weinidog, pa gynnydd sydd wedi'i wneud yn eich barn chi ers cyhoeddi'r cynllun adfer hwnnw flwyddyn yn ôl?