Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 23 Mawrth 2022.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae'r gwelliant hwn i iechyd cymunedol wedi'i addo i fy etholwyr ers blynyddoedd lawer—ers bron i ddegawd bellach. Rydych yn dweud wrthym dro ar ôl tro fod y gwaith o adfer Ysbyty Brenhinol Alexandra bob amser ar y gorwel, heb i'r un rhaw gael ei rhoi yn y ddaear nac unrhyw beth diriaethol i drigolion y Rhyl a Phrestatyn ei weld. Pan godaf y mater hwn gyda Llywodraeth Cymru, maent yn beio bwrdd Betsi am yr oedi, ac yna mae bwrdd Betsi'n beio Llywodraeth Cymru. Nid oes ots gan fy etholwyr pwy sydd ar fai. Mae arnynt eisiau atebion clir a gwasanaethau gweithredol. Weinidog, sut y byddwch yn gweithio gyda’r bwrdd iechyd lleol i gael gwared ar unrhyw rwystrau a sicrhau bod ysbyty cymuned gogledd sir Ddinbych yn cael ei ddarparu yn y ffrâm amser fyrraf bosibl? Diolch.