Ffoaduriaid o Wcráin

Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:23 pm ar 23 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 3:23, 23 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Weinidog, mae'r University of New Europe, grŵp o academyddion o Ewrop a’r Unol Daleithiau, wedi cyhoeddi dogfen gynhwysfawr sy’n cynnwys manylion cyswllt brys a chyfleoedd ariannu ar gyfer ysgolheigion, myfyrwyr, artistiaid, gweithwyr diwylliannol, newyddiadurwyr, cyfreithwyr a gweithredwyr hawliau dynol sy’n ffoi o Wcráin, Rwsia a Belarws. Wrth inni roi cartref a chroeso i ffoaduriaid sy’n ffoi rhag yr argyfwng a’i effeithiau yn Wcráin, mae cyfle i'n prifysgolion, sefydliadau addysgol a diwylliannol gynnig ystod eang o gyfleoedd a chymorth i’r rheini a ddaw i Gymru. Byddai darparu hyn yn helpu ffoaduriaid i ymgartrefu a theimlo’n rhan o’u cymunedau, yn ogystal, wrth gwrs, â gwella amrywiaeth syniadau yn ein prifysgolion ac ymhlith ein rhwydweithiau academaidd a diwylliannol. A wnaiff y Llywodraeth ystyried cydgysylltu ymateb gan ein prifysgolion a’n sefydliadau diwylliannol fel y gellid darparu canllawiau a system gymorth debyg? Sut y mae’r Gweinidog yn gweithio gyda’n prifysgolion a’n sefydliadau diwylliannol ar hyn o bryd i roi cymorth a chyfleoedd i ffoaduriaid, ac a wnaiff y Llywodraeth ddarparu cymorth ariannol ar gyfer yr ymateb hwn?