Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:28 pm ar 23 Mawrth 2022.
Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn amserol iawn, Alun Davies. Mae’r Prif Weinidog wedi nodi yn ystod yr wythnosau diwethaf, pan ysgrifennodd at Brif Weinidog y DU ddiwedd mis Chwefror i sicrhau ein bod yn cynnig chwarae ein rhan fel cenedl noddfa a nodi ein safbwynt ar ymddygiad ymosodol Putin yn glir iawn, ei fod wedi manteisio ar y cyfle, yn ei ohebiaeth, i bwysleisio bod Llywodraeth Cymru yn credu y dylai Llywodraeth y DU ailystyried y cynigion yn y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau, sydd, yn ein barn ni, yn creu system ddwy haen rhwng ceiswyr lloches yn dibynnu ar sut y dônt i mewn i'r DU. Gwnaethom nodi'r pwynt hwnnw’n gwbl glir i Brif Weinidog y DU. Felly, mae'n rhaid inni gydnabod y pwynt y mae Alun Davies yn ei wneud heddiw. Ysgrifennydd Cartref yr wrthblaid yn y DU, mewn gwirionedd, a ddywedodd ddoe yn y ddadl y bydd y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau yn ei gwneud yn drosedd, fel y dywedwch, i deuluoedd o Wcráin gyrraedd y DU heb y papurau cywir, gyda chosb o hyd at bedair blynedd o garchar, ar adeg pan fo pobl Prydain wedi nodi'n glir fod angen inni gynorthwyo ffoaduriaid o Wcráin. Mae hyn yn gywilyddus—dyna oedd ei geiriau. Ond yma yng Nghymru, fel cenedl noddfa, rydym yn dymuno rhoi croeso cyflym, diogel a chynnes i Wcreiniaid yng Nghymru. Credaf y bydd ein llwybr uwch-noddwr, yr ydym yn gweithio arno ochr yn ochr â’n swyddogion cyfatebol yn yr Alban, yn cael gwared ar dagfa allweddol yn system y DU. Mae hynny'n hollbwysig er mwyn sicrhau nad oes angen i'r rheini sy'n dod i Gymru wybod ymlaen llaw am aelwyd yng Nghymru a all eu noddi.