Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 23 Mawrth 2022.
Diolch. Lywydd ac Aelodau'r Senedd, yn ystod ymweliad â'r mwynfeydd copr o'r Oes Efydd ar Ben y Gogarth yn Llandudno ddydd Gwener, rhyfeddais wrth glywed sut y câi copr a bwyeill copr a wnaed yno 4,000 o flynyddoedd yn ôl eu hallforio o Landudno i leoedd mor bell i ffwrdd â'r Iseldiroedd, Sweden a Gwlad Pwyl. Daeth y mwynfeydd copr i olau dydd ym 1987 yn ystod cynllun i dirlunio rhan o Ben y Gogarth, a newidiodd y darganfyddiad ein dealltwriaeth o gymdeithas war a strwythuredig y Brydain fore 2,000 o flynyddoedd cyn y goresgyniad Rhufeinig. Roedd pentir enwog ein tref yn darparu bron i 98 y cant o'r metel ym Mhrydain ac yn gartref i'r mwynfeydd copr cynhanesyddol mwyaf yn y byd.
Mae'n werth nodi hefyd yr amodau enbyd iawn yn y gwaith mwyn, a'r gred yw bod rhaid i blant bach iawn gropian drwy'r union dwneli a welais i adfer y copr gwyrdd malaceit. Rwy'n gobeithio y bydd y Senedd yn cytuno â mi ei bod yn anhygoel fod metel o Aberconwy wedi arfogi byddinoedd pobl yr henfyd, a bod yr etholaeth, a gogledd Cymru yn sgil hynny, wedi chwarae rhan allweddol yn cysylltu pobl ar draws ein cyfandir filoedd o flynyddoedd yn ôl. Mae'r stori anhygoel hon yn dangos yr hanes unigryw sydd gennym yng Nghymru. Dylai'r tîm yn y mwynfeydd Oes Efydd fod yn hynod falch o'r cyfraniad anhygoel a wnaethant i stori Cymru, Prydain ac Ewrop. A chan fod Llandudno yn croesawu 10 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn ar gyfartaledd, rwy'n gobeithio y bydd pob un ohonoch chi'n ymweld â'r etholaeth hon, lle y gallwch ddysgu mwy am ein hanes diddorol. Diolch.