Part of the debate – Senedd Cymru am 4:02 pm ar 23 Mawrth 2022.
Rwy'n cofio offeiriad yn ysgrifennu darn yng nghylchlythyr y plwyf, a dywedodd, 'Nid amgueddfa i seintiau yw'r eglwys, ond ysbyty i bechaduriaid.' Mae'r frawddeg honno wastad wedi aros yn y cof—fod yr adeiladau crefyddol hyn sydd gennym yng Nghymru wedi'u hadeiladu nid yn unig i ddathlu gogoniant eu Duw, ond fel balm i'r gynulleidfa, lle i gael cysur, i addoli ac i gael heddwch. Mae'r adeiladau hyn i'w gweld ar bron bob stryd yn nhrefi'r Cymoedd, ac fel y dywed yr hen jôc, bydd gan bob pentref yng Nghymru gapel yr ydych yn ei fynychu yn ogystal â'r holl gapeli nad ydych yn eu mynychu, ond fwy a mwy y dyddiau hyn, ychydig iawn sy'n eu mynychu.
Mae'r adeiladau hyn—mae'r pwynt wedi'i wneud—yn fwy na gwaith maen; rhain yw eglwysi cadeiriol ein cof cyfunol, ein cysylltiad â'n gorffennol. Mae yna eglwys ym Mhatrisio ag iddi groglen o'r bymthegfed ganrif. Yn y fynwent mae croes yn nodi'r man lle'r oedd Gerallt Gymro'n pregethu'r drydedd groesgad. Pan fyddwch yn sefyll yno, gallwch ddychmygu eich bod yn clywed y geiriau. Mae'r synagog ym Merthyr yn dangos tueddiadau pensaernïol tylwyth teg amlwg castell Cyfarthfa a Chastell Coch gerllaw, adeilad sy'n adlewyrchu ein hanes mwy diweddar a'r wyneb y mae'n ei ddangos i'r byd. Pe bai adeiladau fel hyn yn cael eu colli, faint o'n hanes a fyddai'n cael ei gladdu gyda hwy? Dim ond sylfeini Abaty Ystrad Fflur sy'n weddill, man claddu Dafydd ap Gwilym yn ôl y chwedl. Nid oes fawr ddim ar ôl o Abaty Cwm Hir. Mae gormod o fannau crand, enwog yn dwyn i gof y llinell gan Harri Webb fod danadl yn tyfu ar yr allor lle'r oedd y seintiau'n ymprydio a'r pererinion yn gweddïo.
Nid yn unig y mae'r adeiladau hyn yn bwysig i'n gorffennol. Maent yn chwarae rhan ganolog ym mywyd y gymuned fel canolfannau ar gyfer boreau coffi, ffeiriau sborion, mannau casglu, banciau bwyd. Drwy gydol COVID-19, defnyddiwyd capeli, eglwysi, synagogau, mosgiau, gwrdwaras a themlau ar gyfer allgymorth, cysylltu aelodau o'r gymuned, trefnu dosbarthu bwyd, corau Zoom, cynlluniau cyfeillio. Maent yn cynnig rhaff achub i breswylwyr o bob ffydd a'r di-ffydd. Byddwn wrth fy modd yn gweld mwy o adeiladau crefyddol yn cael cymorth, yn cael cyllid gwarantedig fel y gallant gadw eu drysau ar agor a chadw'r gwres ymlaen. Gwn fod Cynhadledd Esgobion Catholig Cymru a Lloegr wedi ysgrifennu at yr Aelodau cyn y ddadl heddiw i dynnu sylw at y ffaith y bydd cyllid, boed o'r Loteri Genedlaethol neu'r gronfa adferiad diwylliannol, yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn, ac mae llai o arian ar gael yng Nghymru o'i gymharu â Lloegr.
Mae llawer o esgobaethau a llawer o gynulleidfaoedd yn dibynnu ar roddion gan y bobl sy'n mynychu ac sy'n gysylltiedig â'u cynulleidfaoedd, a bydd hyn yn wir am bob ffydd. Ond oherwydd y pandemig, mae llai o bobl yn mynychu gwasanaeth neu offeren neu gyfarfod gweddi. Nid ydynt yno i roi'r arian yn y fasged. Tybed pa sicrwydd arall y gall y Llywodraeth ei roi i gymunedau crefyddol yng Nghymru y gellir diogelu eu hadeiladau, yn ogystal â'u cryfhau a'u cefnogi? Oherwydd rwy'n ailadrodd eto nad cofadeiladau i'r dwyfol yn unig ydynt, ond tystiolaeth fyw o ewyllys da trigolion yn ein cymunedau—pobl o bob crefydd, y rhai heb unrhyw grefydd, y rhai sy'n dod at ei gilydd i gefnogi pobl sydd angen y gefnogaeth honno, i ddarparu cysur i ddieithriaid, a heddwch i'r rhai sydd ei angen.