5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Adeiladau Crefyddol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:51 pm ar 23 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 3:51, 23 Mawrth 2022

Yn sicr, cytuno, Sam, 100 y cant gyda ti.

Caeodd y drysau'n llwyr ddwy flynedd yn ôl, ac i nifer am y tro olaf. Gallaf feddwl am dair enghraifft yng Nghwm Cynon: Siloa Aberdâr, y man lle cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus tanllyd i ymateb i frad y llyfrau gleision, y man lle cafodd y cyfarfod cyntaf i sefydlu'r Wladfa ei gynnal, y man lle cafodd yr emyn dôn hyfryd 'Rhys' ei chyfansoddi ar yr organ; y capel Cymraeg yn Hirwaun, lle dechreuodd Jennie Eirian ac Eirian Davies eu bywyd priodasol, a lle, meddai Penri Jones, roedd aelodau yr ysgol Sul yn gallu dyfynnu Gwenallt y bardd a Karl Marx mewn un frawddeg; Bethesda Abercwmboi, man lle sefydlodd yr awdures Kate Roberts cangen gyntaf Plaid Cymru tu fas i sir Gaernarfon yn 1925, capel a fu’n cynorthwyo yn ymarferol yn streic gyffredinol 1926, ac hefyd yn streic y glowyr yn yr 1980au. Y cyfan wedi cau yn ystod COVID.

Mae’r sefyllfa yn gymhleth, fel mae Gethin Matthews yn dweud yn ei erthygl yn Barn, oherwydd  gweithredoedd—title deeds—capeli a hefyd cyfraith elusennol. Ond, a dwi'n gorffen gyda hyn, Llywydd dros dro, lle mae’r ewyllys mae modd i lwyddo. Yng ngogledd sir Benfro, mae ymgyrch ddiweddaraf y Cynghorydd Cris Tomos ac eraill wedi sicrhau bod capel Brynmyrnach nawr yn ymuno â'r nifer fawr o asedion cymunedol sydd yno, fel Tafarn Sinc—un o fy hoff dafarndai, Mike. Y bwriad yw agor canolfan dreftadaeth yno a dwy fflat i bobl leol yn yr hen gapel. Mae’r lleoliadau yma yn bwysig, nid yn unig i'n treftadaeth, nid yn unig yn bensaernïol, maen nhw'n bwysig fel man sy’n perthyn i’r gymuned i gyd, i'r bobl i gyd. Felly, braint yw cefnogi cynnig fy nghyfaill Mike Hedges. Diolch yn fawr.